eithaf am ddynoliaeth yn y pant, ac onid yw yn gwbl naturiol i ni ddyfalu fod yn rhywle ddynoliaeth ar y bryn ? Chwaneg na hyna, onid yw y natur ddynol yn ddau ryw ? onid yw person dynol yn ddwy ran ? onid yw y corffei hunan yn ddwbl, dwy law, dan lygad, ac yn y blaen, fel os digwydda un ochr fod yn gloff ac anafus, y gall y llall fod yn iach a heinyf ? Nid ymddengys i ni fod y Beibl chwaith yn gwrth- ddweyd, ond yn hytrach yn ffafrio y syniad. Beth yw y tywysogaeth- au a'r awdurdodau yn y nefolion y mae Paul yn ymbalfalu am danynt ? Nid yr angelion, dybygid. oherwydd gwyddai ef enw y rhei'ny cystal a ninnau. Yn nameg y ddafad a gollasid eto gellir caniatau yn rhwydd mai yr angelion yw y cyfeillion a'r cymydogion a elwir i gydlawenhau â'r Bugail ond pwy yw yr amyn un pum ugain a adaw- wyd yn yr anialwch ? Nid ydyw y dybiaeth mai bodau dynol heb grwydro ydynt yn cymylu dim ar ogoniant trefn iachawdwriaeth, ond yn hytrach yn gosod mwy o ddisgleirdeb ar y Cariad a aberthodd gymaint er mwyn yr un aeth ar gyfeili' rn. Bydd hanes eu dadblygiad dibechod hwy agos mor ryfedi i ni ag a fydd hanes ein prynedigaeth ninnau iddynt hwy. Ac wrth feddwl am y trais a'r celanedd, yr halogrwydd a'r trneni, sydd wedi ymledu dros bob congl o'r ddaear, nis gallwn lai na gobeithio foi gan y Brenin Mawr yr onid un pum ugain o rai cyfiawn, y rhai nid rhaid iddynt wrth edifeirwch." J. EVANS. Llannerch, Pwllheli. BYWYD GLADSTONE GAN MORLEY. II. TERFYNASOM ein hysgrif ddiweddaf trwy gyfeirio at ddymuniad calon Mr. Gladstone ar fod ei holl weithredoedd a'i fe^urau yn rhai iawn, ac nid yn rhai i wasanaethu amcaniou plaid. Nid oedd er hynny yn ddibris o swydd a dylanwad, fel y mae efe ei hun yn addef ond nid er boddio ei uchelgais, ac ysbryd plaid; ond gan y credai fod ynddo gymhwysder arbennig i lenwi swydd, a bod sefyllfa o.awdurdod yn gyfleusdra i hwylio llestr y llywodraeth ar hyd llwybrau uniondeb. Yr oedd ei gydwybod yn un dyner; a'i grefydd yn dylanwadu ar bob act o'i eiddo. Gallai ofyn am fendith y Nef­×ac fe fyddai yn gwneud hynny-ar ei Areithiau Cyllidol, fel ar ei ddyledswyddau mwyaf cysegred.g. Edrychai ar ei Gyllidöb fawr yn 1860 yn arbennig felly. Dywed Morley fod y Gyllideb hon yn sefyll allan fel á ffaith fawr fynyddig yn ei hanes." Nid oes un amheuaeth nad oedd dysgeidiaeth glir ac argyhoeddiadol ysgol Cobden a Bright wedi cael dylanwad mawr ar Gladstone. Yr oedd mwy o gydymdeimlad rhyngddo â'r ddau ŵr gonest a dewr hyn nag a dybid yn gyffredin, ac ond odid mwy nag