the whole is this possible In those remaining, whether they may be reckoned by tens or by hundreds we cannot say, the chances against the same complex combination of conditions as those which we find on the earth occurring on any other planet of any other sun are enormously great" Gwelir oddiwrth hyn fod Dr. Wallace yn synied mai rhywbeth sydd wedi cael ei fod trwy chance ydyw ein byd ni, beth bynnag am y byd- ysawd. Os dyna ydyw, mae yn lled sicr nad oes ei ail, ac hwyrach na bydd ei ail byth bythoedd. Cymered rhywun yn ei ddwrn gant o fân gardiau wedi eu marcio â ffigyrau neu lythyrennau, a thafled hwy ar wasgar fel y gwna yr hanwr pan ä allan i hau. Casgled y cardiau ynghyd, a threied eu taflu eilwaith i ddisgyn yr un fath yn union a'r tro cyntaf. Y chance ydyw na fedr ef na neb arall byth mo'u cael yr un fath yn hollol. Ac y mae yn llawer mwy anobeithiol na hyna, dybygid, i chance gynyrcbu ail fyd a'i gyfoeth o fywyd. Ond beth ydyw chance A ydyw yn weithredydd ? Os caniatawn ei fod, rhaid dweyd ar yr un gwynt mai gweithredydd pur sal ydyw oherwydd mae'n ymddangos nad yw yn abl i gopïo ei waith ei hun. Yr hyn a wna unwaith, odid fawr y bydd yn ei allu i'w wneud eilwaith ac ar y neillduolrwydd hwn y dibynna ymresymiad Dr. Wallace. Ond gad- ewch i ni ofyn eto, a ydyw chance yn vera causa, yn weithredydd o gwbl ? Yn yr engraifft a dybiwyd uchod y taflwr yw y gweithredydd, ac nid yw chance ond enw ar ei amherffeithrwydd, neu yn hytrach ar amherffeithrwydd ei ddull o weithredu. Trwy gymeryd dull arall byddai yn hawdd iddo gyda thipyn o drafferth gyfleu y cardiau yn gyffelyb unrhyw nifer o weithiau. Engraifft arall-mae nifer o enwau yn cael eu dodi mewn het, a pherson yn pigo un allan heb ei weled a dywedir fod y dewisiad yn cael ei wneud by chance. Ond pe gwneid yr het yn rhwydd-oleu efo ladium neu rywbeth o'r fath, a gwell fyth pe tynnid y gorchudd oddiarni, dyna y dewiswr yn gallu darllen yr enwau, a pha le wedyn y byddai y chance ? Dengys hyn mai enw ydyw chance i ddynodi anwybodaeth neu anfedrusrwydd mewn gweithredydd, neu anwybodaeth mewn sylwedydd ar weithrediadau Pwy neu beth tybed, yn ol syniad Dr. wallace, yw y gweithredydd gwirioneddol yn nhrefniad y bydysawd ? Os dywed na wyr, dywedwn ninnau na ddylai adeiladu cymaint ar ei anwybodaeth. Caniatäer mai Meddwl sydd wedi ffurfio a threfnu y bydysawd, ac mae yr amhosiblrwydd a'r anhebygolrwydd o fydoedd trigiannol ereill yn diflannu ar unwaith. Mae meddwl yn gallu efelychu ei hunan, ac efelychu arall os bydd eisieu. Nid oedd nyddwr Arkright neu ager-beiriant Watt ond y pen cyntaf mewn cyfres hirfaith o rai cyffelyb. Ac os gwel neu y gwelodd y Creawdwr yn ddoeth i wneud bydoedd a phobl- oedd ereill, diau nad oedd yr anhawsder lleiaf ar ei ffordd. Gwna, a phwy a'i lluddia ? Gyda Duw pob peth sydd bosibl." Try'r greadigaeth ol a gwrthol wrth ei air." Nid oes dim, gan hynny, yn afresymol nac anysgtythyrol yn y syniad y gall fod mewn byd neu fyd- oerld ereill ddynoliaeth wedi cadw ei dechreuad. Onid yw natur yn awgrymu hynny yn y rhythmic motion, chwedl Herbert Spencer, sydd drwyddi draw 1-ymdoniad diddiwedd, i fyny ac i lawr, yn ol ac ym- laen, trai a llanw, dydd a nos, haf a gauaf, &c. Wel, gwyddom yn