gweddiau ei bobl, eto arferai y taerni mwyaf mewn gweddi, gan ymres- ymu, a hyd yn oed orchymyn yr Arglwydd am waith ei ddwylaw." Parhäi i ofyn am yr un peth am oriau bob dydd, a hynny am wyth- nosau a misoedd yn olynol. Cawn liaws o esiamplau o hyn yn ei hanes. Pan wedi penderfynnu cychwyn y sefydliad i blant amddifaid, bu yn gweddio am oriau bob dydd am 32 o ddyddiau cyn derbyn yr un ffyrling o arian at yr amcan. Y mae ei fywyd yn dryfrith o es- iamplau tebyg o'i daerni. 7. Dyfalbarhad hefyd sydd nodwedd amlwg arall yn ei gymeriad fel gweddïwr a gweithiwr. Nid yw yn hawdd gweled neb ddengys mor glir ei fod yn sylweddoli mor llawn y geiriau hynny o eiddo'r Gwaredwr, Fod yn rhaid gwedù'io yn wastad, ac heb ddiffygio Fel esiampl o hyn nis gwyddom am ddim gwjll na'r hanesyn y cyfeiriwyd ato eisoes gyda dau fab i un 0 gyfeillion ei febyd. Ar restr y rhai oedd ganddo i weddïo yn ddirgel am eu hachubiaeth yr oedd enwau y ddau ddyn hynny. Dywedai ychydiií cyn ei farwolaeth ei fod wedi gwe Id'io am achubiaeth y ddau am dros 60 mlynedd, a'i fod yn parhau i wneud hyuny, er nad oedd yr un arwydd fod y naill na'r llall o'r ddau yn symud dim yng nghyfeiriad y Gwaredwr. A dywedai ymhellach am danynt, Nid oes gennyf yr amheuaeth leiaf na chaf eu cyfarfod yn y nef canys gwn yn sicr na fuasai fy Nhad nefol byth yn gosod ar fy nghalon faich gweddi drostynt oni bai fod ganddo fwriadau trugarog tuag atynt." Ac er iddo ef gael ei alw adref cyn gweled yr un arwydd o ddychweliad ar y naill na'r llall o honynt, y mae un 0 honynt wrth farw yn lled ddiweddar wedi rhoddi profion diamheuol ei fod wedi ei argyhoeddi a'i wir ddychwelyd at Waredwr, tra y mae y llall yn aros o fewn cyrraedd dylanwad yr efengyl. 8. Gwelwn oddiwrth ei hanes fod yr Arglwydd do yn parhau i brofi ei bobl yn llym a mynych iawn. Nis gallwn weled yr un esboniad arall ar y ffaith ddarfod i'r Arglwydd, ugeiniau o weithiau, ei ddwyn ef a'i deulu lliosog o blant amddifaid i drothwy newyn, heb ddim cyflenwad yn y cyrraedd nac yn y golwg. Dywed y bu raid iddo anfon ei deulu mawr ugeiniau o weithiau i gysgu heb fod yr un tamaid o fara na diferyn o laeth mewn llaw at roddi iddynt foreufwyd y dydd dilynol. Ond mor wir ag y parhäi efe i ddal y prawf, heb ddiffygio o ran ei ymddiried yn Nuw, ni fu raid iddynt fod heb foreufwyd yn ei bryd bob boreu. Unwaith yn ei oes faith y bu raid gohirio ciniaw am hanner awr oher- wydd prinder defnyddiau. Profid ef yu llym trwy ei osod mewn auhawsder i beidio cadw at ei reol o beidio gofyn am gymhorth gan ddyn. Un tro felly yn neillduol a nodir ganddo. Pan nad oedd ganddo i gyfarfod angen y teulu mawr ond dau swllt a thair a dimai mewn llaw, anfonodd cyfaill ato i ddweyd fod ganddo £ 100 i'w rhoddi iddo os byddai iddo ei hysbysu pa un a oedd mewn eisieu ar y pryd, neu ynte y byddai iddo roddi y £ 100 i rai ereill y gwyddai oedd mewn angen. Teimlai Müller ei anhawsder yn fawr iawn, gan fod ei gyflen- wad wedi rhedeg mor isel. Gwyddai y buasai gair oddiwrtho ar unwaith yn dwyn y £ 100, ac yn symud yr anhawsder o'r ffordd ar unwaith. Ond, teimlai ar y llaw arall y byddai gwneud hynny yn rhy debyg i ddibynnu ar ddyn, yn lle ar Dduw, a phenderfynodd beidio hysbysu ei gyfaill am iselder ei drysorfa, ac aeth at ei Dad nefol i ofyn