yn arfer estyn cynorthwy i ddyn hyd nes y byddai y dyn hwnnw wedi gwneud yr 011 yn ei allu, ac nad oes reswm dros i ni ddisgwyl i Dduw wneud drosom ddim allwn ni wueud drosom ein hunain. Yn gyson â'r gred hon ni chadwai yn ol ddim o'i yni corfforol na meddyliol na moddion ariannol o gwbl. Treuliai ei holl oriau a'i eiddo personol yn y gwaith gariai ymlaen dros ei Arglwydd Yn rhestr y tanysgrifwyr tuagat y gwaith digwydda un enw yn dra mynych. sef, "Gwas i'r Arglwydd Iesu, yr hwn sydd yn cael ei gymhell gan ei gariad Ef, ac yn ceisio trysori trysor yn y nef." Ceir symiau mawrion o arian yn cael eu Ihoddi yn fynych gan y Gwas hwnnw yn y rhestr drwy yr holl gyfrolau. Wedi casglu yr holl symiau ynghyd ceid eu bod yn cyrraedd y swm o £ 81,000. Nid oedd yn wybyddus pwy oedd y Gwas hyd nes y bu Müller farw, pryd y deallwyd nad oedd yn neb amgen na Müller ei hun, yr hwn, ar hyd y blynyddoedd, roddai bob arian dder- byniai gan gyfeillion personol at waith yr Arglwydd, heb dreulio ffyrling 0 honynt ar ei gyfleusderau a'i angenrheidiau ei hun. Felly cyfrifir ei fod wedi rhoddi dros £ 81,000 at y gwaith ag y buasai yn hollol rydd iddo eu defnyddio mewn dull arall pe y dewisasai, gan mai iddo ef yn bersonol y rhoddasid hwy. Pan fu farw, nid oedd ei eiddo personol, ar ol tynnu allan rai llyfrau a dodrefn berthynai iddo, ond £ 69, ac yr oedd yr arian hynny 011 i gael eu treulio ar y gwaith. Credai efe nas gallwn ddisgwyl i'r Gwaredwr fendithio y torthau hyd nes y bydd y disgyblion wedi trefnu y torfeydd, a'u trefnu yn ol y gorchymyn. 4. Ei ymddiried diderfyn yn Nuw. Dyma'r elfen sydd yn ymwthio i'r golwg yn ei holl fywyd ac yn argraffedig ar ei holl weithrediadau yn fwy nag un elfen arall. Unwaith y caffai oleuni clir ar lwybr ei ddyledswydd, ac y deallai gyfeiriad yr ewyllys ddwyfol, nid oedd derfyn ar ei ymddiried yn Nuw i gwblhau y gwaith, pa mor fawr neu anhawdd bynnag a fyddai. Erthygl bennaf ei gredo oedd, Gyda Duw pob peth sydd bosibl." Dyma sydd yn esbonio y camrau tra beiddgar gymerodd, a'r gwaith enfawr gyflawnodd, yn ystod ei hirfaith oes. Yn ol graddau ei ymddiried yn Nuw y rhagorodd ar bawb bron yn y ganrif. Petrusai bob amser rhag gwneud dim fyddai yn y perygl lleiaf o wanhau ei ymddiried yn Nuw. Dyma'r wythlen euraidd dreiddia drwy ei holl fywyd a'i waith. 5 Gwelwn y fantais o ddefnyddio y dull o ymresymu â Duw meum gweddi. ( ariai efe allan yn llytliyrennol y cyfarwyddyd geir yn y geiriau hynny, Deuwch yr awrhon ac ymresymwn." Ar rai adegau cymerai ei weddïau ffurf hollol ymresymiadol, a defnyddiai 7 neu 8 0 resymau i rymuso ei weddi, ac i ddadleu a'r Arglwydd am gael ei ateb. Gwnai hynny, nid oherwydd y tybiai fod y gradd lleiaf o amharod- rwydd neu anhueddrwydd yn yr Anfeidrol i gyflawni dymuniadau ei bobl, ond am y credai mai ewyllys ei Dad nefol ydyw i'w blant ef ddwyn eu rhesymau ymlaen hyd yn oed pan na wyddant paham y mae efe yn gofyn am hynny. Gwyddai hefyd ei fod yn dilyn esiampl ei Waredwr wrth weddïo, fel y gwelwn oddiwrth ei weddi fawr yn Ioan xvii, 6. Yr oeddlyn hynod am ei daerni. Er nad oedd neb drwy yr holl wlad yn credu mwy nag ef ym mharodrwydd Duw i wrando ac ateb