ddeall ystyr Feiblaidd y gair "edifeirwch," fe berthyn i bob ymchwiliad perffaith dri chwestiwn Beth yw yr ystyr yn iaith yr Hebreaid, yn iaith yr Iddewon. ac yn y Testament Wewydd. Heb ymdrin â'r tri, anghyflawn fyddai yr ymchwiliad, ansicr fyddai ein seiliau, anghywir ein hymresymiad a gallai ein casgliadau fod yn gwbl anghywir. Yn sicr, pwy bynnag sydd yn credu yn y Gair, nid esgeulusa un rhan o'r ymchwiliad hwn. Er engraifft, heb yr H.D. byddai unrhyw ymresymiad mor gadarn a thý wedi ei sylfaenu heb garreg gongl y sylfaen. Cytuna synwyr cyffredin, barn ysgoleigion diweddaraf, a chalon pob Cristion ar hyn. A phwy bynnag a chwilio hanes y gair, i wneud hynny yn gyflawn a deallus, rhaid yw iddo ei chwilio yn iaith yr Hebrewr, yr Iddew, a'r Cristionogion, h.y., yn yr H.D., yn y LXX., a'r T.N. 3. Ar hyn o bryd cyfyngir ein sylw yma i'r H.D. Yn gyntaf 0ll, fe ddylid cofio tair ffaith (1) Ymddengys y gair Edifeirwch neu Edifarhau yn yr H.D. bob amser am yr un gair gwreiddiol; (2) Nid bob amser y cyfieithir y gair hwnnw gyda'r geiriau hyn; (3) Fe'i defnyddir yn amlach am Dduw nag am ddyn. Awgryma y ffeithiau hyn ddau sylw (1) Nad edifarhau yw unig, os pennaf, ystyr y gwreidd- iol (2) Rhaid fod i'r gwreiddiol ystyr ag sydd yr un mor wir am Dduw ag am ddyn. Beth, ynte, all yr ystyr honno fod ? 4 Prin y mae un gwahaniaeth barn gyda golwg ar hyn. Erys esboniad yr hen Geaeuius yn ymarferol gywir, ac yn llawer mwy byw nag eiddo neb arall. Yn ol ei farn ef goly^a'r gair weithred, ac nid ystad meddwl,-gweithred dyn mewn cyfyn^der, sef dyheu," gruddfan," neu ocheneidio gweithred sydd yn ddatganiad o deimlad y profedigaethus yn ei ing a'i ofid. Nis gallwu brofi hyn o'r H.D., gan nas ceir yno un engraifft o'r gair yn ei ffurf syml. Er hynny, nid pell oddiwrth hyn yw y ffurf symlaf i'r gair geir yno. Fe wyddis yn berffaith sicr fod dyhead ac ochenaid yn gynnyrch teimlad y profedigaethus. 0 ddesgrifio y cynnyrch, defnyddir y gair i ddesgrifio y teimlad ei hun. Yn lle yr ochenaid, rhydd yr holl bwys ar y teimlad profedigaethus a'i cynyrchodd. Yn sicr, ynte, ni raid petruso gydag ystyr wreiddiol y gair. Dios yw mai y teimlad profedig- aethus a olyga, yn ei ffurf arferol. Os edifeirwch y gelwir hwn mewn rhai cysylltiadau, yna nid cyfnewidiad meddwl mo hono, nac yn wir gyfnewidiad un rhan o'r meddwl. Yn unig desgrifia ystad teimlad gŵr sydd mewn profedigaeth o ryw fath neu gilydd. Fe ddaw hyn i'r golwg ond i ni ddilyn ystyr y gair yn hanes dyn ac yn hanes Duw. A. YN HANES DYN. Ein gwaith cyntaf ddylai fod gosod y darllenydd Cymreig mewn safle i farnu trosto ei hun. Wedi cyrraedd y safle honno gall brisio gwerth pob sylw wneir yu yr ysgrif hon. Ac fe gyrhaedda honno ond iddo gofio fod y gair dan sylw i'w gael mewn amryw gyfieithiadau gwahannol yn y Gymraeg. Yn absen mynegair cyflawn, feallai y bydd hyn o gyfarwyddid yn ddigonol. Saif am "gysuro" yn Gen. xxiv. 67, xxvii. 42; xxxvii. 35, xxxviii, 12, 1. 21 1 Chro. xix 2; Job ii. 11 Ps. cxix. 52; Ezec. xxxi 16, xxxii. 31; am y ddigysur yn Isai. liv 11; am "edifarhau" Exod. xiii. 17, Barnxxi. 6, 15, Job xlii 6, Jer. viii. 6. Dyna, hyd y gwelsom, yr holl engreifftiau o hono a geir yn yr H.D. yn