Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

EDIFEIRWCH YN YR HEN DESTAMENT. 1. Cyn cyfyngu sylw i'r Hen Destament, buddiol fyddai deall ein gilydd gyda golwg ar ystyr bresennol y gair Edifeirwch. Diau y cytuna pawb fod ateb y Rhodd Mam mor ymarferol gywir ag y gellir dymuno, a'i fod yn gwir gynrychioli barn y dyddiau presennol. Gallai nad yw mor fanwl gywir ag y byddai yn ddymuuol. Teimla rhai yr angen am ychwanegu ato er mwyn rhoddi pwys ar yr elfen ynddo ag yr ydys yn rhy barod i'w hanghofio, os nad ei hanwybyddu. I'r diben hwnnw rhoddir y deffiniad a ganlyn o hono Cyfnewidiad y Meddwl a'i Duedd. Eithr fe gyfyd yr angen hwn o'r ffaith uad ym yn defnyddio yr enw Meddwl yn ei gywir ystyr. Pe buasai genuym syniad clir am hwn, diangen fuasai yr ychwanegiad. Nid oes gennym syniad clir am nad oes gennym eto y wyddor ellid ei galw yn Eneideg (Psychology). Gwelir mai i fyd y meddwl a chylch eneideg y perthyn y syniad o edi- feirwch. Ac fe ddylem gofio mai tair agwedd gyffredinol a berthyn i'r meddwl yn y cylch hwnnw, sef, Deall, Teimlad, ac Ewyllys. Os golyga edifeirwch gyfnewidiad y meddwl, yna fe olyga gyfnewidiad y meddwl ymhob un o'r tair ffurf hyn, yn ol eu perthynas naturiol â'u gilydd, sef cyfnewidiad barn y deall, serch y teimlad, a phenderfyniad yr ewyllys. Heb hyn, rhaid cyfaddef mai anghywir fuasai deffinio y gair fel yn golygu "cyfnewidiad y meddwl." Pwy bynnag anwybyddo un o'r tair agwedd hyn ar feddwl, yn sicr, cyn y gall fod yn gywir, bydd orfod arno newid ei ddeffiniad. Er engraifft os gadewir y teimlad allau, nid cyfnewidiad y meddwl mo honno, ond cyfnewidiad rhan o'r meddwl. Gan hynny, anghywir fyddai deffinio edifeirwch fel pe bai yn weithred neu gyfnewidiad yr holl feddwl, tra nad yw ond rhan o hynny, gan nad pa ran bynnag a fo. A phwy bynnag a fabwysiado y cyfryw ddeffiniad, fe saif yn hunan gondemniedig yn ol ei eiriau ei hun. Os cyfnewidiad y meddwl yw edifeirwch, yna y mae yn gyfnewidiad yr holl feddwl ac os cyfnewidiad yr oll, yna cyfnewidiad pob rhan ac os cyfnewidiad pob rhan, yna cyfnewidiad barn, teimlad, ac ewyllys. Nid oes angen ychwanegu dim pellach ar hyn Adgoffeir y darllenydd mai dyma ystyr bresennol yr enw Edifeirwch." 2. Pan yn penderfynu ystyr termau duwinyddol, rheol safonol Oistionogion yw iaith yr Ysgrythyrau Sanctaidd. Nid Cymraeg y Beibl sydd yn ysbrydoledig, ond ei feddyliau. Gan hynny, nid ystyr y gair Cymraeg yw ein safon, Yn hytrach rhaid i ni droi at yr iaith yr ysgrifenwyd yr Ysgrythyrau ynddi. O wneud hyn, gwelir fod ein gwaith yn cynnwys amryw blygion, os dewiswn ei gwbl gyflawni. Ysgrifenwyd y T.N. yn y Croeg, iaith y Cenedlddyn, a'r H.D. yn yr Hebraeg, iaith Israel; ac nis gellir o gwbl anghofio fod i iaith y Cenedl- ddyn ei hanes ei hun yng ngenau yr Iddew. Yr oedd duwinyddiaeth yr Iddew, 0 leiaf ei phrif linellau, wedi ei sefydlu cyn iddo erioed fedru gair o iaith y Cenedlddyn. Parai y ffaith honno fod yn llawer mwy tebyg iddo roddi ei feddwl Hebreig i eiriau Groeg, na rhoddi meddwl Groeg i'w dduwinyddiaeth Bebreig. Mewn gair, os ydym a'n bryd ar