Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ARTHUR SCHOPENHAUER. EDRYCHIR ar Arthur Schopenhauer fel awdwr a sylfaenydd y wedd ddiweddaraf ar y gyfundrefn o athroniaeth a adnabyddir wrth yr enw Pessimism-gair a gyfieithir gan Gaerfallwch a Silvan Evans, Gwaeth- afiaeth. Y mae unrhyw gais i ddeffinio meddwl yr ymadrodd yn sicr o fod i raddau mwy neu lai yn anfoddhaol, oherwydd aml-ochredd yr addysg. O bosibl yr etyb y cais canlynol yr amcan o egluro tueddiad y ddysgeidiaeth Gwaethafiaeth ydyw yr ysbryd hwnnw sydd yn pwys- leisio ar yr ochr dywyll i fywyd, yn dysgu gwaethygiad a dirywiad cyffredinol, ac, fel canlyniad, yn dadleu fod unrhyw wir obaith yn ddisail. Teimlwn oddiwrth y rhwyddineb gyda pha un y dygir i fewn i'r deffiniad dueddfryd personol. Iawn felly yw dangos terfynau dylanwad yr addysg, trwy gyfaddef mai rhywbeth ydyw sydd yn denu teimlad dyn yn fwy na'i reswm a'i ddeall. Ond wedi dweyd hyn, rhaid derbyn y ffaith fod yr ysbryd hwn yn ffynnu yn helaeth ymhob oes. Un o'r ffeithiau dyrus hynny sydd yn lliwio cymaint ar brofiad y byd ydyw fod dyn erioed wedi bod yn chwannog i ddaliadau fel hyn. Y mae yr ysbryd yn rhy amhenodol i'w alw yn ysgol o feddwl. Yn hytrach lefain ydyw mewn amryw ysgolion. Cawn fod Democritus, athronydd y gwenau (fel ei gelwir), a Heraclitus, athronydd y dagrau, yn uno dwylaw yma. Y mae y naill ysgol fel y llall yn Atheistaidd ei hysbryd, ac yn rhoddi y byd i fyny i dywyllwch. Ond, tra y mae dirgelwch bywyd yn gorchfygu yr olaf â thristwch, nid yw ond testyn gwawd i'r blaenaf. Geiriau un o ddisgyblion Democritus ddyry ein Gwaredwr yng ngenau rhyw greadur ar y ffurf o ddyn. Bwyta a bydd lawen," meddai wrth ei enaid, nid am fod dyrysbleth bywyd wedi ei dadrys, ond am mai dinystr sydd yn dilyn llawenydd a thristwch fel eu gilydd, Canys yfory marw yr ydym.' Y mae yr un syniadau i'w cael yn addysg y ddwy ysgol fawr sydd yn dilyn Plato, sef y Stoiciaid a'r Epicureaid. Mor debyg oeddynt yn egwyddorion ac effeithiau mawr eu haddysg fel y tystia John Stuart Mill am ei dad, fod ei syniadau ef yn cyfuno y tair gyfundrefn-yr Epicureaidd, y Stoicaidd, ac eiddo'r Cynics. Y mae rhyw ddiniwe d- rwydd (bwriadol, hwyrach) yn ei gyfaddefiad am ei dad fel canlyniad hyn-" nid oedd yn disgwyl cael llawer hapusrwydd mewn bywyd." Y mae yn amlwg fel hyn fod yr ysbryd sydd yn dwyn y nodweddion a enwyd mor hen a hanes ei hun. Gwelir ei argrafl' ar bob tudalen. Paratoid y ffordd i'r syniadau yn anianawd genedlaethol y byd trwy ei thuedd gyfaddasiadol. Derbyniodd am hyn well sylw, ac enillodd ddyfnach dylanwad. Y mae yr addysg yn ddiflino yn creu hanes. A bu fwy nag unwaith yn offerynnol i ddwyn oddiamgylch chwildroad meddyliol a chymdeithasol. Os gwir a ddywedwyd, rhaid fod i un o'r athrawon diweddaraf i'r addysg ei hawl i sylw. Cydnabyddir, o'r ffynhonnellau na chysylltir á hwy y gwendid 0 eithafiaeth, ddarfod i Schopenhauer greu cyfnod newydd yn hanes athroniaeth, megys Kant a Hegel o'i flaen, ac yn