Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

diweddar Ddr. John Parry. O'r Coleg hwnnw pasiodd Matriculation Prifysgol Llundain, a hynny gydag anrhydedd. Y flwyddyn ddilynol, pasiodd yr ail arholiad, gydag anrhydedd mewn Saesneg, a'r flwyddyn wedi hynny enillodd y radd o B.a., gydag anrhydedd mewn Rhes- ymeg ac Athroniaeth Foesol. Yn 1862, enillodd y radd o M.A. Yna, meddai un a wyddai yn dda, mawr fu'r dyfalu i ba Ie i ddanfon y gŵr ieuanc yn nesaf. Yr oedd y Prif-ysgolion yr adeg yma wedi eu taflu'n agored i'r Ymneillduwyr, a mawr fu'r pryder a'r ymgynghori pa un a ellid mentro anfon T. C. Edwards i Rydychen ai peidio. Dydd- orol ydyw cofio fel dangosiad o'r cyfnewidiad dirfawr sydd bellach wedi cymeryd 11e yn syniadau ein gwlad, fod rhai o brif arweiuwyr y Cyfundeb, â'r rhai yr ymgynghorodd Dr. Edwards ynghylch hyn, yn gwrthwynebu'n gadarn y syniad o ddanfon y gŵr ieuanc yno. Ond cymerai Dr. Edwards olwg eang ar y mater. Dadleuai ef, gan fod drysau y Prif-vsgolion, ar ol llafur ac ymladd dirfawr, wedi eu taflu'n agored, mai dyledswydd Ymneillduwyr oedd manteisio ar hynny yn ddioed, er mwyn dangos ein bod yn gwerthfawrogi'r fraint." Syniad Dr. Edwards a orfu. I Rydychen, gan hynny, yr anfonwyd T. C. Edwards, ac yno cymerodd First Class Honours yn yr Ieithoedd Clas- urol. Gadawodd yr addysg a gafodd yno ei ol arno ar hyd ei oes. Nid duwinyddiaeth Rhydychen a ddygodd efe oddiyno gydag ef. Ieithoedd ac athroniaeth, a dylanwad y gwyr mawr, Jowett a Pattison, oedd y nerthoedd roes gyfeiriad a grym i'w fywyd a'i gymeriad. Y mae'n amlwg iddo yntau adael argraff ddofn ar feddwl Jowett, yr hwn a ddywedai y ceid wedi eu huno yn T. C Edwards deimlad angerddol a meddwl cryf, treiddgar. Ac nid unwaith na dwywaith y clywsom yntau yn dweyd mai dyn mawr oedd Jowett, dyn ag yr oedd bod yn ei gymdeithas yn ysbrydoliaeth o'r fath baraf. Wedi bod fel hyn yn casglu ac yn paratoi arfau ar gyfer brwydr bywyd, dechreuodd yn ddioed ymosod ar deyrnas y tywyllwch a'i holl allu. Cychwynodd ei yrfa gyda gwaith yr Efengyl yn Sir Benfro. Ordeiniwyd ef yng Nghymdeithasfa Llansawel, ym mis Awst, 1864, pryd y traethwyd ar Natur Eglwys gan y Parch. Edward Matthews, ac y traddodwyd y Cynghor gan y Parch. David Charles, B.A., Abercarn. Pan yn 28 oed galwyd ef i fugeilio eglwys Saesneg y Methodistiaid yn Windsor Street, Liverpool. Buan y tynnodd ei ddoniau disglaer ac amrywiol sylw llawer o wyr cryfion mewn deall a chrefydd. Cynydd- odd y gynulleidfa'n gyflym, a bu raid symud i Catharine-street, ac yno y bu efe'n bugeilio'r praidd hyd nes y penodwyd ef, yn 1872, yn Brifathraw Coleg Aberystwyth. Llanwodd y swydd bwysig honno am flynyddoedd lawer, ond nid heb i fwy nag un cynnyg gael ei wneud i'w symud oddiyno i gylch o wasanaeth mwy uniongyrchol gyda'r Efengyl. Ond wrth Aberystwyth y glynai'n ddi-ildio hyd nes i Gyfuudeb y Methodistiaid ddechreu anesmwytho, a phenderfynu y dylid ei gael yn olynydd i'w hybarch dad fel Prif-athraw Athrofa Dduwinyddol y Bala. Athrofa Dduwinyddol a ddywedasom ac eto nid dyna ydoedd hyd y flwyddyn 1891. Mewn rhan yn unig yr oedd felly cyn hynny. Cymysg oedd yr addysg-Mathematies, leithoedd, Athroniaeth, a Duwinyddiaeth. Bu farw Dr. Lewis Edwards ar y 19eg o Orffennaf,