Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ymlaen allan 0 ganolbwnc y Drindod i'r holl Gorff a Thywysogaidd- Orsedd Iesu Grist, a llanwodd yr oll oddiallan yn y claerder (T. E. xxvi. 4). Boehme a M. Llwyd a alwant sylw difrifol at yr angenrheidrwydd o ddal yn ffyddlawn at Grist yr hanes, cenadwri amserol o'r eiddynt nid yn unig at eu dyddiau eu hunain, ond hefyd at ein dyddiau ni. Oherwydd tra mae un Ysgol yn rhoi y pwys ar Iesu yr hanes, gan golli golwg yn ormodol ar ei Ysbryd, mae Ysgol arall yn rhoi y pwys i gyd ar Ysbryd Crist, gan dueddu i wadu yr hanes. Mewn un lle dŵg M. Llwyd ar gôf ddarfod iddo unwaith fod dan y brofedigaeth i fychanu yr hanes. Syrthiodd rhaio'r Crynwyryn ei amser ef i'r brofedigaeth honno, a gwyddis iddo yntau ar un adeg fod yng nghyfrinach y dosbarth hwnnw o grefyddwyr. Gwynfydedig y dyn ag sydd wedi ei adeiladu ar Iesu o Nazareth megys ei unig sylfaen, ac nad yw mewn unrhyw fodd neu dan unrhyw rith, yn gwneuthur yn ddiystyr o'r farwolaeth bersonol, ag y darfu i holl adeilwaith nefoedd a daear'symud wrthi Gochel wahanu rhwng y Crist allanol a'r mewnol; llynclyn barn ydyw, pwll i galonnau hunan-hyderus. Y neb sy'n ysgrifennu a welodd y twyll (Wh. is Christ, t. 305). Ac eglura Boehme: "Ni fyn fy ngwrth- wynebydd i mi ddywedyd bod Crist yn greadur; ac eto gwir yw, mor bell ag mae'r enaid a'r deyrnas allanol i'w hystyried, ei fod yn greadur; canys yr allanol sy'n grogedig wrth y mewnol; neu ni fu Crist yn y byd hwn, os nad ydyw y deyrnas allanol am dano, er heb amhuredd ac yng nghyffelybiaeth y Duwdod. Yr ydoedd yn greadur, ac y mae yn gyfryw yn dragwyddol" (Ail'At. i T. § 247—8). W. HOBLEY. Y PRIF-ATHRAW T. C. EDWARDS, M.A., 1 YN y flwyddyn 1837-blwyddyn agoriad Coleg y Bala--ar yr 22ain o Fedi, y ganwyd Thomas Charles Edwards. Yr oedd yn fab i'r diweddar Ddoctor Lewis Edwards, ac, o du ei fam, yn orwyr i'r hybarch Thomas Charles, B.A., awdwr y Geiriadur Ysgrythyrol, a sylfaenydd y Feibl Gymdeithas. Cafodd, ym more ei oes, fanteision na ddisgynnant i ran ond ychydig. Awyr bur addysg a chrefydd a anadlai beunydd. Dangosodd yn bur fuan ei fod wedi ei ddonio â galluoedd uwch na'r cyffredin. Un o'i brif nodweddion, pan yn bur ieuanc, oedd penderfyniad di-ildio i fynnu gorchfygu. Profodd ei yrfa athrofaol mai un o benderfyniad felly oedd efe bob amser. Nid ein hamcan yn yr ysgrif hon ydyw rhoddi hanes ei yrfa athro- faol gyda dim manylrwydd, ond dichon na byddai rhoddi y prif ffeithiau ynglyn a hynny allan o le, cyn son am bethau ereill. Yng Ngholeg y Bala y dechreuodd ar ei gwrs addysg, o dan hyfforddiant ei dad, a'r