Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

DADLEUON AM DRINIAETH CANCRYFRON Eifion V. Williams Rhodri J. U Williams Er bod nifer o ffactorau ynglyn â chancr y fron (CYF) wedi eu hastudio yn fanwl, mae nifer o gwestiynau dadleuol sydd heb eu hateb. Os edrychwn ar yr elfennau sy'n effeithio ar y risg o gael CYF, gwelwn fod ffactorau genetig a hormonaidd (tabl 1). Yng ngwledydd gorllewinol y byd, mae tua 10% o gleifion yn datblygu CYF oherwydd ffactorau genetig. Caiff ei etifeddu fel afiechyd awtosomaidd trechol gyda threiddiad uchel (highly penetrant). Ni wyddom yn iawn sawl genyn CYF sydd ar gael, ond mae dau amlwg wedi ei henwi sef BRCA1 a BRCA2. Pan ydynt yn bresennol, mae hyn yn peri risg uchel iawn i'r unigolyn, sef 80 90% o ddatblygu CYF drwy eu hoes. Mae'r rhan fwyaf o'r cleifion sydd yn datblygu CYF drwy drosglwyddiad genetig yn dioddef cyn iddynt gyrraedd 65 mlwydd oed. Os nad yw wedi datblygu erbyn yr oedran hwn, mae'n annhebygol fod y claf wedi etifeddu'r genyn diffygiol. Mae risg menyw o ddatblygu CYF ddwywaith yn fwy os oes ganddi aelod teuluol cynradd (mam, chwaer, neu ferch) sydd wedi datblygu'r afiechyd cyn iddi gyrraedd 50 mlwydd oed. Genetig Hormonau mewnol Hormonau allanol Hanes teuluol Mislif cynnar Pilsen wrth-genhedlol BRCA1/BRCA2 Oedran ar adeg HRT beichiogrwydd cynnar Heb blant o gwbl Diwedd mislif hwyr Tewder mewn henaint Tabl 1: Elfennau risg gyda chancr y fron. Gallwn wahanu'r elfennau hormonaidd i rai mewnol ac allanol. Hormonau mewnol: Mae mwy o risg o ddatblygu CYF os yw'r fenyw wedi dechrau ei mislif yn gynnar a chael darfyddiad y mislif yn hwyr. Mae menywod sydd wedi profi darfyddiad mislif natutiol yn ddiweddarach na 55 mlwydd oed, ddwywaith yn fwy tebygol o ddatblygu CYF na menyw