Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

NEFFROPATHI DIABEHG: EI ARWYDDOCÂD, EI DRINIAETH, A'R GOBETTHION AM Y DYFODOL AledPhülips Un o'r cymhlethdodau mwyaf difrifol mewn achosion o'r clefyd siwgr yw datblygiad neffropathi. Yn yr erthygl hon, fe wneir ymdrech i arolygu'r dull o adnabod datblygiad neffropathi diabetig, tanlinellu maint y broblem a thrafod y modd y gallwn ohirio ei ddatblygiad. Datblygiad naturiol neffropathi diabetig Un o'r newidiadau cynharaf sydd i'w weld yng ngweithgaredd yr aren mewn clefyd siwgr yw gorhidlo. Er bod gorhidlo yn nodweddiadol, nid oes tystiolaeth ei fod yn niweidio'r aren, nac ei fod yn clustnodi'r cleifion hynny fydd yn datblygu neffropathi diabetig. Yr arwydd cyntaf felly yng ngweithgaredd yr aren sy'n dynodi datblygiad neffropathi diabetig yw ymddangosiad microalbwminwria (30-300mg/24awr). Yn dilyn ymddangosiad microalbwminwria, fel y bydd neffropathi yn datblygu ymhellach, fe ganfyddir proteinwria (>300mg/24awr), ac yna fe fydd gweithrediad yr aren yn dirywio. Mae gostyngiad yng ngweithrediad yr aren felly yn ffenomen hwyr yn natblygiad neffropathi. Er mai proteinwria sy'n nodweddu datblygiad neffropathi diabetig, fe ganfyddir haematwria microsgopig yn hanner y cleifion sy'n dioddef oddi wrth neffropathi diabetig. Ym mhresenoldeb haematwria microsgopig, mae'n bwysig, fodd bynnag, i edrych am achosion eraill a allai fod yn gyfrifol am haematwria, cyn derbyn mae neffropathi diabetig sy'n gyfrifol am hyn. Yn cyd-fynd â gorhidlo, fe welir newidiadau ym morffoleg yr aren, sef datblygiad glomerwlws hypertroffig a thewhad y bilen waelodol yn y glomerwlws. Unwaith eto, adlewyrchiad o bresenoldeb clefyd siwgr, yn hytrach na datblygiad neffropathi diabetig, yw'r newidiadau hyn. Yr hyn sy'n nodweddiadol o ddatblygiad neffropathi diabetig yw ehangiad mesangial, ac yna sglerosis glomerwlar gwasgaredig. Yn ddiweddarach, fel y dirywia gweithrediad yr aren, fe ganfyddir ffibrosis gwagleol. Yn y pen draw, fe fydd y glowerwlws a'r gwagle arennol yn cael eu creithio, ac mae hyn yn cyd-fynd â dirywiad yng ngweithrediad yr aren.