clwyfau crawnllyd neu friwiau cronig, ac arwydd o chwydd sydd newydd ymddangos. Pan geir chwyddau cancr yn yr asgwrn neu'r simentum neu un o elfennau'r geg, dylid bod yn wyliadwrus. Ymhlith y cyflyrau sydd yn ymddangos yn debyg i'r uchod ond sydd yn ddiniwed, gan amlaf, y mae liwcoplacia anfalaen (benign leukoplacia), lichen planus, pemphigus, llosgiadau gan aspirin neu'r gwres a ddaw o ysmygu pib, y gwahanol fathau o herpes a briwiau dychweliadol y gilfoch. Felly, rhaid pwysleisio'r pwysigrwydd o ddal y cyflwr hwn yn gynnar, gan fod atal yn well na thrin. Eto, rhaid ailbwysleisio rhan yr ymarferydd cyffredinol, boed hwnnw'n ddeintydd neu yn feddyg a'r cyfle arbennig a gaiff i gydweithio wrth archwilio cleifion ac anfon y rhai â chyflyrau amheus at arbenigwr er mwyn sicrhau diagnosis cynnar. DDOE, NI DDYCHWEL.. O dudalen 27: Yn y flwyddyn 1787, digwyddodd ffrwydriad erchyll yng nglofa'r Pwll Mawr, Llansamlet, Abertawe. Anfonwyd am feddyg o'r dref, Thomas Williams (?-1809) f Williams Fawr'). Llwyddodd ef i ddadebru wyth o'r dynion y credwyd eu bod wedi marw, wedi iddo eu gwyntyllu am awr gyfan. Wrth wneud hyn, defnyddiodd dechneg a ddysgwyd iddo gan lawfeddyg o Ddulyn a Llundain, William Hawes (1736-1808). O ganlyniad, derbyniodd Williams fedal y Royal Humane Society. Gosodwyd y geiriau (Lladin) digon priodol, 'hwyrach, gall gwreichionen lechu yno'n anweledig' ar y fedal. Ef oedd yr unig feddyg y gwyddys amdano 0 orllewin yr hen sir Forgannwg a oedd yn dal i hysbysebu o dan y pennawd ^dyn-fydwraig' mor ddiweddar â 1804. Ar yr amser hwnnw, byddai'n cynnig brechu plant "boneddigion a masnachwyr' yn erbyn y frech wen am dâl o goron yr un, gan ei fod yn awyddus i gyfrannu i ddifodiad y dolur ofnadwy' T. G. Davies, op. cit.