Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Am ganrifoedd, cyfundrefn y tlodion a dderbyniodd y rhan fwyaf o'r cyfrifoldeb am gynnig rhyw fath o wasanaeth amrwd, ansoffistigedig yn y maes hwn, a hynny, gellid tybio, â chryn dipyn o anfodlonrwydd; wedi'r cwbl, braidd y byddai neb arall wedi ymgiprys am waith a oedd mor ddiddiolch. Y mae'r cyfeiriad cyntaf y daethpwyd o hyd iddo yn y cyswllt hwn ym Morgannwg yn perthyn i'r ail ganrif ar bymtheg. Ym 1667, yn Abertawe, talodd swyddogion y plwyf ddau swllt a chwe cheiniog i Reese Jones 'am ofalu am wallgofddyn am wyth noson'. Er na wyddys dim am amgylchiadau'r achos, y mae'n bur debyg y gellir priodoli'r haelioni annodweddiadol hwn ar ran cynrychiolwyr y plwyfolion yn fwy i'r awydd i amddiffyn y trigolion lleol nag i unrhyw bryder am les y claf. Ni ddigwyddodd unrhyw welliannau sylweddol erbyn y ddeunawfed ganrif. Ym 1787, ym mhentref Llanfleiddian, ym Mro Morgannwg, rhoddwyd gorchymyn fod yn rhaid 'cadw a chloi T.R. [yn ddiogel] tra pharhao ei orffwylledd'. Wedi hynny, cafwyd fod ei ymddygiad yn y ddalfa wedi 'peri trafferth i'r Meistr a'r carcharorion', a phan ofynnwyd i Lys Chwarter Morgannwg ddyfarnu ar y pwnc, fe'i trosglwyddwyd yn ôl i ofal y pentrefwyr, gan mai eu cyfrifoldeb hwy oedd gofalu amdano. Mewn ardaloedd lIe y cafwyd cyfoethogion mwy trugarog na'r rhelyw, gellid disgwyl darpariaeth a oedd yn fwy digonol. Er enghraifft, yn ardal Y Gelli Gandryll ym 1699, adeiladwyd elusendai gan Elizabeth Gwyn, ac yn ei hewyllys, gadawodd fferm o 58 erw a chanpunt at yr un gwaith. Cadwyd y tai hynny hyd at y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Ond prin oedd achosion tebyg. Afraid dweud mai tlawd oedd llawer o blwyfi Cymru, ac er iddynt fod dan bwysau i osod trethi lleol, prin y gellid fod wedi disgwyl iddynt gwrdd yn ddiymdrech â'r gofynion a osodwyd arnynt. Ac mewn llawer ardal, ni fyddai'r swyddogion lleol yn brin o bwysleisio mai gweithredu gwasanaeth dan brotest yr oeddent. Efallai mai'r enghraifft fwyaf eithafol o hyn a gaed oedd yng ngeiriau'r weddi honno a ysgrifennwyd i'w defnyddio mewn tlotai, lle y disgwylid i'r rhai a gadwyd yno ymbil am ras i beidio â 'meithrin pechod â bara segurdod'. Ni ddiflannodd yr agwedd hon drwy gydol y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Ym 1817, pan gwynodd Henry Sockett, bargyfreithiwr a gymerasai ddiddordeb digon byw yng nghyflwr y tlodion yn Abertawe, am y niferoedd o blith 'yr afradlon a'r dioglyd' a oedd yn derbyn budd-daliadau, nid oedd ond yn adlewyrchu'r syniadau a goleddwyd, onid yn wir a ymfalchïwyd ynddynt, gan lawer o blith y breintiedig rai. Yr oedd y berthynas rhwng tlodi a rhai mathau o ddoluriau yn ddigon hysbys ers amser. Yn ddiweddarach, sylweddolwyd y gallai'r unigolion a ddioddefai o'r cyflyrau seicotig ddisgyn i ddosbarth cymdeithasol is wedi iddynt ddatblygu'r math hwnnw o dostrwydd. Er hynny, ym 1868, ni chredwyd fod mwy na 4.3 y cant o'r achosion o dlodi a welwyd i'w priodoli i dostrwydd meddwl, ond eto, yr oedd pum deg a thri o 'wallgofiaid tlawd' yn byw yn ardal Nedd ar y pryd. Ychwanegwyd at y broblem o ofalu am gleifion o'r fath wrth i'r