O HANES MEDDYGAETH Cyfundrefn y tlodion fel gofalydd seiciatregol yng Ngorllewin Morgannwg yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Dr T. G. Davies Er cymaint y datblygiadau materol a seicolegol a gafwyd, nid ydym wedi gallu sicrhaufod cysur ar gael ar gyfer haenau isaf poblogaeth ein dinasoedd [1] O'r holl sefyllfaoedd enbyd a all wynebu'r ddynolryw, prin fod llawer ohonynt yn fwy echrydus eu dylanwad na chyfuniad o dlodi a thostrwydd meddwl difrifol, gan eu bod yn ychwanegu at effeithiau ei gilydd. Fe adnabuwyd y doluriau seiciatregol mwy difrifol (gorffwylledd), y mae'n debyg, oddi ar ddyddiau cynharaf yr hil, a pharhaodd y gred na ellid egluro achosion cyflyrau o'r fath fel ffenomenau naturiol am amser hir. Ym 1827, honnodd Halliday fod trawiant gorffwylledd yn is nag a ddisgwylid ymhlith y Cymry a'r `llwythau Celtaidd eraill', ond y mae ar gael beth wmbredd o ystadegau swyddogol, yn enwedig o gyfnodau diweddarach yn y ganrif, sydd yn dangos fod ei honiadau yn ddi-sail. Yr hyn a oedd yn gyffredin drwy wledydd Prydain fel ei gilydd oedd agwedd ddilornus y cyhoedd tuag at dostrwydd meddwl. Ac ni ellid disodli'r fath ragfarn ar chwarae bach; os cafwyd gwared ohoni i raddau helaeth gydag amser, arhosodd ei heffeithiau i ryw raddau hyd at heddiw. Ond os bu datblyg- iad y gwasanaeth seicriategol yn araf, bu'n anwastad hefyd, ac y mae rhai cyflyrau sydd bellach o fewn tiriogaeth y seiciatrydd, na fu yno mewn oesoedd cynharach. Er enghraifft, pan aeth Capten Richard Gwynn, swyddog tollau porthladd Abertawe i Lundain ym 1677, datblygodd ei wraig deimladau o anesmwythdra afreolus. Er y byddai angen seiciatrydd dewr er mwyn gwneud diagnosis arni wedi bwlch o dair canrif a mwy, gellir tybio wrth ddarllen y llythyrau a adawodd hi ar ei hôl ei bod yn dioddef o ryw fath o newrosis. Petai hynny yn wir, ni fyddai wedi bod yn debyg o gael unrhyw fath o driniaeth, ac y mae'n amheus a fyddai ei chyflwr wedi cael ei gydnabod fel tostrwydd. Parhaodd yr agwedd fympwyol hon tuag at y claf ei feddwl ymhell wedi hynny, wrth gwrs. Y mae'n ddigon o ryfeddod fod rhifyn cyntaf Y Meddyg Teuluaidd, a ymddangosodd ym 1827, yn cynnwys trafodaeth gymhleth 'am yr effaith sydd gan y meddwl ar y corff, a hynny mewn oes pan nad oedd hi'n arferol trafod y fath bynciau. Ond er mor flaengar oedd y syniadau a drafodwyd, nid oeddent yn adlewyrchu meddylfryd mwyafrif y boblogaeth. Yn wir, y mae'n amheus a fyddai'r rhan fwyaf o ddarllenwyr y cylchgrawn hwnnw wedi gallu credu fod unrhyw gysylltiad rhwng yr hyn a ysgrifennwyd yno a'r broblem o ofalu am gleifion seiciatregol. [2]