Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Hanes Acwbigo. Tseina 500 B.C. Acwbigo yn cael ei ddisgrifio yn yr NeiJingSuWen. 16eg ganrif disgrifiad cyntaf yn Ewrop. Diwedd 18ed ganrif cyrraedd Prydain. Dechrau 19eg ganrif Dr. J. Elliotson,Ysbyty St. Thomas Erthyglau yn y Lancet dangos gwelliant cryd cymalau. 1930 a 1940 rhoi acwbigo i fyny. Adnewyddu diddordeb mewn acwbigo gyda ymweliad Arlywydd Nixon i Tseina yn 1972. Ffigwr 2 Mae hanes acwbigo yn mynd yn ôl cyn belled â 500 C.C. Ceir disgrifiadau o'r driniaeth yn y llyfr clasurol, Nei Jing Su Wen (The Yellow Emperor's Classic Book on Internal Medicine). Ni cheir hanes am acwbigo yn Ewrop tan yr 16 ganrif pan laniodd yr offeiriaid lesuaidd yn Beijing. Yn y 18ed ganrif y daeth i lannau Prydain, ac fe wnaethpwyd yr astudiaeth gyntaf ohono yn Ysbyty St Tomos. O fewn cyfnod byr roedd erthyglau ar y pwnc yn ymddangos yn y Lancet. Rhwng y ddwy Ryfel Byd cafodd acwbigo ei anwybyddu i raddau oherwydd y datblygiadau newydd a ddigwyddodd mewn meddygaeth gonfensiynol. Ni fu adnewyddiad diddordeb tan 1972 pan ymwelodd yr Arlywydd Nixon â Tsieina (Ffigwr 2). Erbyn heddiw mae llawer o feddygon ac aelodau'r cyhoedd yn derbyn acwbigo fel triniaeth amgen. Damcaniaeth y Tsieineaid yw fod acwbigo yn adfer clorian ynni y corff. Mae'r syniad o Yin a'r Yang yn bwysig iawn, ac maent yn cynrychioli dau ynni gwrthwynebol i'w gilydd a naturiol. Yn llythrennol "afon mewn cysgod" yw Yin ac "afon mewn golau haul" yw Yang. Ond maent hefyd yn golygu gwryw a