ond mae'n anodd dychmygu y bydd unrhyw bractis heb un claf ar restr aros neu na fyddai'n elwa ar brynu triniaeth ychwanegol ar y pryd. Nid oes modd i'r meddygon elwa eu hunain ar unrhyw arian gweddill, y gellid ei ddefnyddio i wella cyfleusterau'r practis, er enghraifft ceisio cyfrifiadur gwell, prynu offer ychwanegol, neu ychwanegu at y staff. Gan fod meddygon sydd heb fod yn ddalwyr cyllidebau yn gorfod talu am yr un cyfleusterau, bydd y dalwyr cyllidebau ymhlith y practisau mawrion ar eu mantais. Ni fyddai'r dewis ar ddiwedd blwyddyn yn hawdd: ai gwella safon yr ystafell aros ynteu prynu pen glin newydd i hen wraig sydd yn gaeth i'w thy ac mewn poen? Mae'n debygol ar y dechrau y bydd yna weddill ar ddiwedd blwyddyn am nad yw'r ffigyrau a'r costau'n ddigon manwl, ac mae'r Llywodraeth yn benderfynol o wneud i'r cynllun Iwyddo. Ond am ba hyd? Sawl enghraifft sydd yn y sector cyhoeddus â chyllideb gyda gweddill? Bydd dal cyllideb yn achosi gwaith gweinyddol aruthrol, ac yn galw am frid newydd o weinyddwyr a rhaglenni cyfrifiadur newydd, ac nid ydynt ar gael. Mae llawer o bractisau oedd wedi dangos diddordeb yn y dechrau yn tynnu'n ôl oherwydd hyn a'r diffyg gwybodaeth angenrheidiol. Efallai y bydd yn haws i'r practisau fydd yn ymuno â'r cynllun yn yr ail flwyddyn o Ebrill, 1992. Rwyf wedi ceisio amlinellu rhai o'r problemau enfawr sydd yn ein hwynebu. Y broblem fwyaf fydd yn codi o'r syniadau newydd yn y Gwasanaeth Iechyd yw'r hast aruthrol sydd i ddod â hwy i fodolaeth a'u gweithredu.