Bantw, ym 1965, agwedd y Llywodraeth tuag at drigolion Soweto: "Gwn y bydd Bantw yn Soweto. Ond ai'r un Bantw fyddant o hyd? Y maent yn debygol o newid a symud wrth deithio'n ôl ac ymlaen i'w gwlad." Erbyn heddiw, amcangyfrifir bod tua thair miliwn yn byw yn Soweto, a chanran uchel ohonynt yr ail neu drydedd cenhedlaeth, wedi eu geni a'u magu ar y Witwatersrand. Gan mai rhyw 100,000 o dai sydd yn Soweto, mae, ar gyfartaledd, 29 yn trigo ymhob ty. Cofier hefyd nad yw arwynebedd Soweto ond rhyw 220 cilomedr sgwâr, (sgwâr 10 milltir). Amrywia maint y tai. Yn yr ardaloedd mwyaf llewyrchus, megis Dube, lle trig y dynion busnes llwyddiannus, y lladron proffesiynol, a'r meistri trais, gwelir tai mawr gyda grisiau, trydan i'w goleuo a'u twymo, a cheir moethus, fel BMW neu Mercedes, o'r tu allan. Ond nid felly yng ngweddill Soweto. Yno, rhaid bodloni ar dy dwy ystafell, a'r muriau o drwch un fricsen, neu wedi eu hadeiladu o sine; ystafell fyw a chegin, gyda ffenestri bychain, stof i losgi glo neu baraffin, dim trydan, rhannu un tap dwr rhwng nifer o deuluoedd, rhannu ty bach rhwng sawl ty, iard gefn agored, lychlyd, yn lle i'r plant chwarae ac i'r cwt, tebyg i gwt ieir, gysgoda'r aelodau hynny o'r teulu nad oes lle iddynt yn y ty dros nos. Nid yw'n anghyffredin fod tair cenhedlaeth yn byw yn y ddwy ystafell hyn. Cwyd y dynion, filoedd ohonynt, tua phump o'r gloch y bore i ddal y trên neu'r bws i'r gwaith, naill ai yn y mwyngloddiau neu yn y dref. Ychydig o'r merched sy'n aros gartref yn ystod y dydd. Yn Johannesburg y mae eu gwaith hwy, yn glanhau ty, yn gweini, neu, os oes mymryn o allu ganddynt, a'u bod yn ddigon ffodus i gael y cyfle, efallai yr ânt i nyrsio i Baragwanath. Yn ôl pob amcan, y mae tua 80% o ferched Soweto'n gweithio. Fel arfer, i lwythau'r Zulu, Xhosa a'r Tswana y perthyn y merched sy'n gweithio, tra daw'r rhai di-waith o hil y Venda a'r Shangaan, dau lwyth sy'n cael trafferth i addasu i'r bywyd trefol, soffistigedig. Bydd bywyd yn galed iawn i'r teuluoedd hyn. Dyma stori nodweddiadol o broblemau un o'r merched di-waith: "Fy enw yw Nokuthuta, gair, o'm hiaith, sy'n golygu 'newid tŷ'. Ganed fi pan oedd fy nhad yn symud i weithio o un fferm i un arall. Hyd heddiw, symud ty yw fy hanes. Methu cael hawl-lyfr ydw i er mwyn cael caniatâd i aros yn yr ardal. Heddiw, 'rwy'n aros efo'm chwaer yn Soweto, ac yn gweithio ar y slei, yn glanhau'r ty i Meistres. Mae hi'n talu 55 Rand, cyflog da i mi, hyd nes y ca'i gopsen gan yr awdurdodau. Yna, caf fy ngyrru'n ôl i Natal. Ond, mi ddof yn ôl. 'Does dim gwaith imi yn Pietmaritzburg, beth bynnag. Ac mae'n rhaid imi gael rhywbeth. "A dyna ichi 'ngwr i, Jacob Nyembezi, enw sy'n golygu dagrau. Mi gefais i ddigon o'r rheiny ganddo. Y fo a'i yfed! 'Roedd o'n arfer gweithio mewn gerddi, ond erbyn hyn, tydi o'n gwneud dim. Rhaid i mi gael arian i'r plant gael ysgol, 'dyw Jacob yn da i ddim. Ac amdana i fy hun, cha' i ddim dyn arall bellach. Pwy fydde eisiau dynes ddeugain oed? 'Does gen i ddim byd ond y plant, a'r gobaith y ca' i gartre ganddyn nhw, rhywbryd." Ysbyty poblogaeth Soweto yw Baragwanath. Gorsaf farchnata Syr John