Skip to main content

"NO PASARAN! VIVA LA REPUBLICA." J^ gan Tom Jones. Mewn drôr yn ein ty ni mae tystysgrif, wedi ei harwyddo gan swyddog Gwerinlywodraeth Sbaen yn ystod mis Medi 1938, yn tystio fy mod wedi cael fy nienyddio. Anfonwyd y dystysgrif i fy Mam, ac aeth hithau i godi'r arian yswiriant, ond, fel sy'n wir am bob mam mae'n debyg, ni allai gredu fod ei mab wedi marw. A phan gyrhaeddais gartref yn y flwyddyn 1940 dyna lle'r oedd yr arian yn fy aros; ond 'roedd fy mam wedi marw erbyn hynny, a fy nhad hefyd. Yr oeddwn wedi mynd allan i Sbaen yn 1937, hefo nifer o wir- foddolwyr eraill i helpu'r weriniaeth yno i ymladd yn erbyn Ffasgiaeth rhyngwladol. Gyda chymorth Mussolini a Hitler yr oedd Franco yn ymosod yn chwyrn ac anghyfreithlon ar y llywodraeth weriniaethol; ac yr oeddem ni yn ymwybodol iawn mai rihyrsal oedd hyn i gyd ar gyfer ymosodiad mwy gwaedlyd fyth gan y Ffasgiaid ar Ewrop gyfan os nad ar y byd i gyd. Gyda'r lleill teithiais i Lundain i gynnig fy ngwasanaeth, a chawsom ein rhybuddio nad chwarae plant oedd y rhyfel yn Sbaen, ac y dylem feddwl yn ddifrifol am y peth cyn mynd ymhellach. Yn y lle cyntaf yr oeddem yn torri cyfraith ein gwlad ein hunain drwy ymuno â byddin yn Sbaen. Fodd bynnag, dyma fi, gyda nifer o fechgyn ifanc eraill, yn mynd dros y Sianel i Baris, gyda thocyn penwythnos (nid oedd angen passport ar daith felly), bob un ohonom yn teithio ar wahân rhag tynnu sylw gwyr y C.I.D. a oedd yn gwylio yn y porthladd. Ym Mharis, yn ymyl y Place du Combat, cefais gyfarfod tua 400 o fechgyn eraill oedd â'u bryd ar yr un daith anghyfreithlon. Trefnwyd i ni gael ein smyglo yn grwpiau bach dros y ffin o Ffrainc i Sbaen ac ym mhen amser daeth tro'r grwp yr oeddwn i yn perthyn iddo. Ar ôl taith digon anturiaethus daethom o fewn cyrraedd y ffin, a dyna lle'r oedd yr heddlu yn aros amdanom. Yr oedd un o'r grwp yn gallu siarad Ffrangeg ac esboniodd i swyddog yr heddlu mai twristiaid oeddem, ond gan nad oedd gennym na passport nag unrhyw ddogfen arall i gadarnhau'r honiad,