Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

"CEIWDl Y PREN GWYN" Ifan Jones. Cymdeithas Lyfrau Ceredigion. 7/6. Dyma ganu sydd yn rhan o gyfoeth traddodiad llenyddol deau Ceredigion. Dyma fardd wedi ei drwytho yn y mesurau caeth, ac hefyd yn gampwr ar lunio telyneg. Fe fu'r awdur yn llwyddiannus mewn llawer steddfod o safon uchel, ac y mae graen y gwir grefftwr ar ei waith. Dyma wr yr oedd "Cerdd Dafod" (fel y dywedir yn y Rhagymadrodd gwerthfawr gan J. Tysul Jones) fel Beibl iddo, a bu yn ffyddlon iawn i "Babell Awen" Dewi Emrys. Y mae yr "Ychydig Sylwadau" gan y diweddar Gwenallt yn hynod o ddiddorol ac addysgiadol fel y gellid disgwyl, a dywedir amdano yno "roedd yn ymwybod â'i grefft fel bardd yn ei gerddi gorau." Y mae'r gyfrol fechan werthfawr hon yn gyfoethog mewn englynion a chywyddau, sonedau a thelynegion, a thinc y gwir artist i'w glywed yn aml. Dyma lyfr a ddylai roi llawer iawn <ı fwynhad i bobl sy'n caru barddoniaeth dda. Y mae cymeriadau a gwaith gwyr tebyg i'r awdur yn brin, ac fel y dywed yn ei gerdd "Yr Hen Fardd Gwlad." Ofer y chwiliaf heddiw Am un o'th deip a'th ddawn, A gwn fod hithau'r werin Yn dlotach lawer iawn. "RHWNG GEWYN AC ASGWRN." Gwyn Williams. Dryw. 10/6. Pan fydd bardd a beirniad mor wych â Gwilym R. Jones yn dweud am y bardd hwn-"Dyma lais newydd ym myd barddon- iaeth Gymraeg," y mae yn werth cymryd sylw. Ac yn wir ni'n siomir yn y gyfrol hon. Pan gipiodd yr awdur goron Pontrhyd- fendigaid, roeddem yn synhwyro bod rhywbeth arbennig iawn yn ei waith. Y mae y llyfr hwn yn dangos bod iddo ei lais ei hun, a'i fod yn un sydd yn medru anadlu bywyd newydd i'r gynghanedd. Efallai bod y ffordd y mae yn sgwennu ei gerddi cynganeddol yn edrych dipyn yn od i rai, ond y mae'r awdur wedi deall y