bu ei gyfraniad mwyaf. Yr oedd yr ardal yn llawer cyfoethocach a gwell lle i fyw ynddi oherwydd ei ddylanwad ef-pa beth mwy ellir ei ddweud am neb? Y peth pwysicaf i'w ddweud am y gyfrol deyrnged hon i T. Ll. Stephens yw diolch i'r golygydd a'r rhai aeth ati i dalu teyrnged mor haeddiannol i'r gwr amlochrog hwn. Pwysleisir drwy'r gyfrol mai dyn ymarferol oedd Stephens. 'Roedd yn athro blaengar a chyn sôn am fudiad yr ysgolion Cym- raeg, yr oedd ysgol Talgarreg yn Ysgol Gymraeg yng ngwir ystyr yr enw. Cyfeirir droeon at ei ddawn fel peirianydd, fel cerddor, ei agwedd ymarferol at grefydd a'i frwydrau dros ei gyd-athrawon roedd yn ddyn trwyadl ymarferol. Daw'r agwedd hon i'w gymeriad i'r amlwg yn yr ychydig ddarnau llenyddol o'i waith a gynhwysir yn y gyfrol. Ni thybiaf fod iddynt werth llenyddol mawr, a thebyg fod llenydda o ddifrif yn rhywbeth a gymerai ormod o amser i ŵr mor brysur â Stephens. Gallaf ddychmygu iddo lunio'r darnau a gynhwysir yma i ryw bwrpas neilltuol, i'r plant i'w hadrodd mewn eisteddfod neu i gyfarch cyfaill ar achlysur arbennig (megis y soned hyfryd ar ymddeoliad Miss Cassie Davies). Mae'n anodd cyfeirio at un o'r cyfraniadau gan gyfeillion y diweddar T. Ll. Stephens yn fwy na'i gilydd. Mae edmygedd mawr ac adnabyddiaeth drylwyr yr ysgrifenwyr ohono yn amlwg i bawb. Yn unig dyfynnaf eiriau'r Parch. Gwilym Morris: "Pisgah, yng Ngheredigion, piau'i gorff; Llanllwni, ym Myr- ddin, piau'i wreiddiau, ond Cymru piau'i enaid. Mwynhad o'r mwyaf oedd darllen y gyfrol hon. Cyhoeddwyd "Y Gwron o Dalgarreg" gan Gymdeithas Lyfrau Ceredigion. Pris? GWYN GRIFFITHS. Y WELEDIGAETH HAEARN. Gwyn Thomas. Gwasg Gee. 5/ Dyma ail gyfrol y bardd ifanc athrylithgar hwn. Cyfrol fechan yw hi ond un sy'n eich denu i ail ddarllen ei chynnwys. 'Roedd cyhoeddi ei lyfr cyntaf o gerddi yn ddigwyddiad o bwys ym myd llenyddol Cymru heddiw, ac fel y dywed yr Athro Caerwyn