gyrchu Mynachlog-ddu un cyfnod o haf. O Gaerfyrddin y teith- iwn, a manteisiais ar y cyfle i ymweld â Llanddowror. Tindroi yn y fan honno, a wedyn yn Red Roses, a cholli fy ffordd at hynny, a barodd ei bod yn nos arnaf yn cyrraedd Bro'r Preselau. Yr oedd "hun ar Ddyfed" y noswaith honno hefyd! Mae'r gyfrol hon hefyd yn cynnwys hanes teithiau ar y Cyfan- dir a wnaed dros ddeugain mlynedd yn ôl. Peth arall diddorol a geir yma yw darn o lythyr gan dad yr awdur (Thomas Edward Ellis, A.S.) yn disgrifio ei ymweliad cyntaf ef â'r Cyfandir, ym mis Awst, 1888. Y mae yma hefyd naw o luniau a thri map. WILLIAM WILLIAMS. Y GWRON O DALGARREG. Golygwyd gan T. Llew. Jones. Un waith erioed y cwrddais a T. Ll. Stephens, y "gwron o Dalgarreg," tua blwyddyn cyn ei farw. Yn addas iawn yn Aelwyd Talgarreg y gwelais ef, yn ei gynefin fel petai. Yr oeddwn yn aelod o Aelwyd Castell Flemish ac yr oedd rhywun wedi cael y syniad o drefnu Noson Lawen o Aelwydydd yr Urdd yn Sir Aber- teifi, yn Nhalgarreg. Yr oedd yn noson fawr. Hyd y gwn i fu fawr o drefnu ymlaen llaw ond fe drodd popeth allan yn berffaith a chafwyd noson a erys ar gof llawer o bobl yr Urdd yn Sir Aberteifi heddiw, ddeng mlynedd yn ddiweddarach. Ni chofiaf beth ddywedodd Tom Stephens y noson honno, er y cofiaf yn dda iddo siarad, ei lais yn dawel, yn wan a'r anadl yn fyr. Ond yn fwy na dim, 'roeddwn yn ymwybodol iawn o'i bresenoldeb drwy gydol y noson ynghanol hwyl ac asbri'r ifanc. Wedi'r cwbl, 'roeddwn yn Aelwyd Talgarreg, un o aelwydydd mwyaf gweithgar a bywiog Sir Aberteifi, yn wir yng Nghymru. Ac onid T. Ll. Stephens oedd yn gyfrifol am fodolaeth yr Aelwyd honno? Flwyddyn yn ddiweddarach, yn 1959, bu farw Stephens wedi oes o wasanaeth i bentref ac ardal Talgarreg. Yr oedd yn adnabyddus yn Sir Aberteifi, er na thybiaf ei fod yn ffigur cenedlaethol, ac fel llawer ysgolfeistr arall yn lleol y