gwêl yr awdur rhyw gysylltiad â Chymru, a geilw sylw at hynny, a manteisio ar gyfle beunydd i gymharu rhywbeth neu'i gilydd â peth tebg yng Nghymru. Pethau fel hyn, ynghyd â'i hiwmor braf, sy'n ei wneud yn gwmniwr mor ddiddan. Hoffais hefyd ei ddis- grifiadau o wahanol fwydydd; heb sôn am ei brofiadau yn Jerez, "Mecca gwin-garwyr y byd": Wedi'r cyfan, y mae bwyd a diod — nid eu paratoi yn unig ond eu hadnabod a chyfranogi ohonynt hefyd-yn rhan o ddiwylliant. Y mae yna nifer o luniau da; ond dim map, ac y mae hynny'n fai. Trist yw gorfod cyfeirio at y mân wallau iaith ac argraffu ­ugeiniau ohonynt, onid cannoedd. Cyfrifais gynnifer a 16 yn y chwe tudalen cyntaf. A chamddyfynnir Gray (t. 47). Mae'n resyn bod cyfrol ddifyr a gwerthfawr fel hon yn cael ei handwyo gan feflau fel hyn. DILYN LLWYBRAU. T. I. Ellis. Llyfrau'r Dryw, Llandybie. tt. 68. 10/6. Casgliad o un-ar-ddeg o ysgrifau taith yw'r llyfr hwn, gan awdur sydd, fel y gwyr powb, "mewn teithiau yn fynych," ac yn barod hefyd, o drugaredd, i ymdrafferthu i sgrifennu hanes ei deithio. Mae'r teitl, Dilyn Llwybrau, yn awgrymu math arbennig o deithiau, ac y mae'n gwbl addas; hynny, yn wir, a wneir yma: dilyn llwybrau seintiau (Beuno, o swydd Henffordd i Sir Fôn; a Garmon, o St. Harmon's yn Sir Faesyfed, i Lanarmon yn Eifion- ydd), a llwybrau afonydd (Cain a Thanad, Tywi a Chothi), a llwybrau rhai hen reilffyrdd. Mae'r dull hwn yn rhoi unoliaeth pwrpas i bob taith. Afraid dweud bod yr awdur, gyda'i wybod- aeth eang am Gymru a'i hanes, a'i ddawn fel llenor, yn arweinydd ardderchog ar hyd y llwybrau diddorol hyn, er ei fod, ambell dro, yn tueddu i fynd yn rhy gyflym, ac ambell dro arall yn cymhlethu pethau drwy enwi ffyrdd eraill y gellid eu cymryd, a lleoedd eraill y gellid ymweld â hwy petai amser! Hoffais yn fawr ei bennod ar Sir Benfro-"Cis arall ar Ddyfed." Meddai am ardaloedd y Preselau: "Mae cysgod y cynfyd ,rywfodd, dros y cwbl, a rhyw ddychrynfeydd elfennaidd yn hofran o gwmpas." Mi deimlais innau'r un peth yn union wrth