Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

J'R BUR HOFF BAU, gan Prys Morgan. Nofel gyntaf Prys Morgan yw hon, ac fel y gellid disgwyl wrth hanesydd, nofel hanesyddol yw hon wedi ei seilio mewn gwlad fach ddychmygol o'r enw Zoltania sy'n ceisio ymryddhau o grafangau eryr Awstria yn nechrau'r ganrif hon. Ymdrech i gyflawni'r amhosibl yw'r thema-yr alltud bren- hinol sy'n byw ar fraster Ffrainc heb unrhyw fwriad i ddychwelyd i'w wlad. Mae'r ychydig alltud cadarn yn penderfynu dychwelyd â byddin fach i geisio sefydlu gweriniaeth, ond yn methu. Chwiliais drwy'r nofel am ryw neges o obaith i'r genedl fach dan orthrwm cenedl arall-am rywbeth a fyddai'n cyfiawnhau teitl y nofel, ond yn ofer. Methais ddod o hyd i ddim sy'n berth- nasol i gyflwr Cymru heddiw. Chwiliais hefyd am ryw ddadansoddiad diddorol o'r cymhell- ion sy'n gorfodi'r cymeriadau i ddilyn cwrs arbennig ond nid yw'r ymdriniaeth o'r cymeriadau yn arbennig o ddwfn na manwl. Yn wir, braidd yn ramantus yw'r driniaeth o'r cymeriadau yn y llys alltud yn Nice ac o'r Awstriaid militaraidd yn Zoltania. Hwyrach mai fel nofel ysgafn y bwriadwyd hon, ac fy mod yn rhy awyddus-yn beryglus o awyddus-i ddisgwyl pethau mawr a syniadau newydd oddi wrth awdur sydd mor amlwg yn y byd academaidd. Rhaid derbyn y nofel am yr hyn ydyw. rhyw- beth digon difyr, i'w darllen yn gyflym ac yna i'w rhoi o'r neilltu. Cyhoeddir "I'r Bur Hoff Bau" gan Lyfrau'r Dryw. Pris 15/ GWEN GRIFFITHS DWR." LLAETH." GWLAN." 7/6. COED." 7/6. Gan D. Gwyn Jones. Llyfrau'r Dryw. Dyma bedwar llyfr sy'n hanfodol i lyfrgell pob Ysgol Gyn- radd ac Eilradd yng Nghymru. Heddiw, pan roddir cymaint o bwyslais ar waith "project" mewn ysgolion, mae'n ddefnyddiol cael llyfrau fel hyn y gall y plant droi atynt i chwilio am ffeithiau. Mae rhannau o'r llyfrau yn dechnegol; ond mae geirfa ar derfyn