Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

GWLAD PANTYCELYN Gan WILLIAM WILLIAMS, (Machynlleth) "Emynwyr ac Emynau" oedd pwnc y dosbarth+, a pheth naturiol, felly, oedd i'r aelodau fynd am drip i wlad Pantycelyn, nid yn unig am mai Williams yw brenin ein emynwyr ond hefyd am fod cynifer o emynwyr mawr eraill yn dod o'r un cyfeiriad. Fe gofia'r cyfarwydd am y map, "Gwlad Pantycelyn", yn llyfr Gomer Morgan Roberts, Y Pêr Ganiedydd Pantycelyn (Cyf. 1) (1949), lle y dangosir cylch naw milltir o dref Llanymddyfri. O fewn y cylch y mae Myddfai a Thal-y-llychau a Chaeo a Chil-y- cwm pob un ohonynt yn gysylltiedig ag emynwyr adnabyddus, a Phantycelyn ei hun, wrth gwrs. Mi ddylai fod yn braf ar ddiwrnod yn nechrau haf, ond 'doedd hi ddim. Yr oedd hi'n bwrw hen wragedd a ffyn yn y bore, ac er iddi liniaru peth yn ddiweddarach, ni wasgarodd y cymylau ac ni pheidioedd y coed ag wylo drwy'r dydd. Ond yr oedd hi'n glyd yn y bws, a'r cwmni'n un difyr. A hyfryd ydoedd cael Golygydd Lleufer, a'i ferch Manon, gyda ni. Yn lIe dilyn y briffordd o Lanidloes tua'r de aethom drwy Dylwch a heibio i Sychnant a Nantgwyn, a chyrchu Rhaeadr Gwy o gyfeiriad Pant-y-dwr, a chael cip, felly, ar Gwm Dulas y bygythir ei foddi. 'D oedd hwnnw ddim yn edrych ar ei orau ar fore mor wlyb, ond byddai ei foddi yn golygu colli erwau lawer o dir amaethyddol da a throi nifer o deuluoedd o'u cartrefi. A byddai'n drais arall ar ddaear ein gwlad. Cymry Seisnigedig yw'r trigolion, ond nid ydynt yn ail i neb yn eu cariad at eu bro, ac fe ymladdant drosti, mi wn. Ail ymuno â'r briffordd yn Rhaeadr Gwy a'i dilyn hyd y Bontnewydd. Eithr nid heb gofio am un o emynwyr y cylch naw milltir, sef John Thomas o Fyddai, yr Annibynnwr Methodistaidd a urddwyd yn weinidog Rhaeadr Gwy yn 1767. Ceir hanes ei fywyd yn Rhad Ras-"yr hunangofiant Cymraeg cyntaf, ond odid" a gwaith hynod o bwysig i'r neb a fyn ddeall natur y Diwygiad Methodistaidd. 'Caniadau Sion' yw teitl y casgliad o'i emynau, a thrysorir amryw ohonynt yn ein llyfrau emynau heddiw. (Gyda llaw, nid ef yw'r unig emynydd diddorol sy'n dwyn yr enw John Thomas).