Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y GWAHANIAETH RHWNG DYSGU PLANT A RHAI MEWN OED Gan JOHN OWEN Buddiol i bawb ar brydiau yw ceisio crisialu profiadau cymhleth bywyd, buddiol iawn i athro ysgol yw holi ei hunan parthed yr hyn y ceisia ei wneud. Byddaf yn ceisio darllen a pharatoi ar gyfer tymor newydd, ond anaml y bydd dyn yn ym- dawelu, chwedl y Salmydd, i fyfyrio ar ddibenion sylfaenol ei weithgarwch-profiad gwerthfawr. Awgryma'r testyn ddwy ran, y dysgu mewn ysgol a dysgu oedolion. Ceisiaf ddilyn yr un drefn. Bwriadaf gyfyngu'r sylwadau i ddelio yn fras ag amcanion, deunydd a dull. Yn naturiol, bydd fy sylwadau i gan mwyaf yn ymwneud ag Addysg Ysgolion Uwchradd. Fel cyfnod y Barnwyr yn yr Hen Destament mae cyfnod addysg Uwchradd yn amser dyrus iawn. Ar ddechrau llyfr y Barnwyr casgliad o lwythau gwasgaredig yw Israel ond erbyn y diwedd mae Samuel yn gallu trosglwyddo i Saul ryw fath o genedl unedig. Felly y mae'r plentyn un-ar-ddeg oed yn rhy ifanc, efallai, i synhwyro dibenion y broses addysgol; ond siawns erbyn ei fod yn ddeunaw y medr weld cyfanrwydd a diben dysg. Dylid sylweddoli fod y gagendor rhwng y flwyddyn gyntaf a'r olaf mewn Ysgol Uwchradd yn cynrychioli y gwahan- iaeth mwyaf posibl yn holl gwrs bywyd. O'r holl ddiffiniadau a gynigiwyd ar amcan dysgu y mae yn- ddynt gan amlaf ddwy elfen gyffredin, sef hyfforddi ar gyfer gal- wedigaeth a meithrin egwyddorion dinasyddiaeth dda. Crynhodd D. J. Williams hyn yn fachog wrth gyfeirio at un brawd yn gweithio ar y ffordd wrth ei oruchwyliaeth ac yn dal cwningod wrth ei alwedigaeth. Mae'r ddeuoliaeth hon ymhob dysgu-yn anffodus nid yn gytbwys bob amser. Pentyrir deunydd i'n hymen- ydd sydd yn mynd i'n gwneud yn ddoctoriaid, yn athrawon, yn wyddonwyr, — yr hyn a elwir y Sais yn "Vocational Training". Ar waethaf y ffaith fod y Dystysgrif Gyffredinol yn ceisio sicrhau rhyw fesur o gytbwysedd, byddant wedi cychwyn cerdded y ffordd a wna hwynt yn arbenigwyr. Fel y byddwn yn coginio bwyd i'w fwyta, troir yr holl anialwch a elwir yn ddysg i ennill swyddi. Amcan hollol seciwlar sydd i addysg ysgol ar y lefel hon. I ryw raddau mae hyn i'w gyfiawnhau, ond os mai dyma'r unig amcan­