a sgrifennu a fu yn ddiweddar ar Winston Churchill. Am y cyfnod hwn y bwriadwn sgrifennu pan soniais ar y dechrau am hen restrau dosbarthiadau Uwchaled. Bûm yn dra esgeulus, ac er i'r Golygydd addo gofod haelach nag arfer imi y tro hwn, prin y meiddiaf gymryd hyfdra mwy arno nag a wneuthum yn barod. Felly, caiff y rhestrau diflanedig (a gweddnewidiedig, pwy ŵyr?) fod yn esgus am y tro. Ond mi ddywedaf hyn. Petawn i'n ddigon pwysig i feiddio dynwared yr hunangofianwyr mawr yma, sydd yn hoff o nodi rhyw 'gyfnod ffrwythlonaf' neu rhyw 'flynyddoedd allweddol yn eu bywyd, mi ddywedwn heb lawer o betruster mai'r cyfnod y bûm yn Uwchaled oedd yr amser hwnnw i mi. Dyna'r adeg pan oedd mwy nag un ffrwd yn rhedeg i'r pant, yr adeg pan ddeuthum agosaf erioed at gymathu byd o Gymru. Ar ôl hynny, chwalwyd undod y cymathiad; nid un Gymru sydd, ond dwy. Cenedl, neu'rhyn a erys ohoni, yw'r naill; talaith yw'r llall. Oddi ar y dyddiau y bûm yn Uwchaled, y gweddill cenedl yn unig a fu'n bwysig i mi. Ond mae'r mater hwn yn llawer rhy amlgeinciog i 'myrreth ymhellach ag ef ar waelod y llwyth fel hyn. Y peth gorau felly yw cau'r tincar a mynd. H.T. Gan WYN ROBERTS A thithau'n dweud dy stori am a fu ­Troeon yr yrfa gynt tua Phenmaenmawr, Neu gymrodoriaeth pyllau'r Rhondda ddu O dan arweiniad Mabon, mae yn awr Yn nyfnder llaith dy lygaid epig dyn, Methiant ac ymdrech lew o'r crud i'r bedd- Mae'r cyfan yno fel aflonydd lun Ar wyneb pwll pan fyddo dwfn ei hedd. Gwelaf y gorthrymderau ar dy daith, A gwelaf fellt tosturi calon lân, Dy frwydro dros y werin dan ei chraith, A dur y sêl a brofwyd yn y tân. Yn sydyn chwerddaist fel direidus wr, A'r llun a chwalwyd o dan grychni'r dwr.