LLEUFER CYLCHGRAWN CYMDEITHAS ADDYSG Y GWEITHWYR YNG NGHYMRU Cyf. XXI HAF 1965 Rhif 2 NODIADAU'R GOLYGYDD WEDI chwilio yn ofer am bwnc i sgrifennu fy Nodiadau amo yn y rhifyn hwn, rhaid imi ddyfod at bwnc sydd yn pwyso'n drwm ar fy meddwl y dyddiau hyn, sef y cynigiad — neu'r bygythiad -í sefydlu tref newydd yng nghanol fy hen sir, Sir Drefaldwyn, a'i llenwi â Saeson uniaith o Ganoldir Lloegr. Nid oes gennyf ddim yn erbyn y Saeson eu hunain; bûm yn byw yn eu canol am lawer blwyddyn, a'u cael yn gymdogion da, ac y mae gennyf gyfeillion yn eu plith hyd y dydd heddiw. Ond peth arall ydyw Saeson wedi dyfod i fyw i Gymru (nid pawb ohonynt hwythau chwaith, trwy drugaredd). Bydd y Sais sydd yn byw ynghanol y Cymry yn salach dyn yn amI iawn na'r Sais calon- gynnes sy'n byw yn ei wlad ei hun. Rywsut, mi dybiaf i fod troi ymysg y Cymry sydd yn medru ei iaith ef, a'r un pryd yn siarad ymhlith ei gilydd mewn iaith nad yw ef yn ei medru, yn creu yn y Sais ryw ymdeimlad o israddolrwydd (inferiority) sydd yn brwydro'n chwerw yn erbyn yr ymdeimlad o uwchraddolrwydd sydd yn gynhenid ynddo. Peth annioddefol braidd i bobl a fagwyd yn aelodau o genedl falch ydyw byw ymysg rhywun sydd yn gwneud iddynt deimlo'n fach neu allan ohoni Ac i gadw eu hunan-bareh-a'u hunan falchder-yr unig amddiffyniad iddynt ydyw dirmygu'r peth sydd yn rhoddi'r teimlad anhyfryd hwnnw iddynt, sef yr iaith Gymraeg. Mewn hunan-amddiffyniad y dirmygant Gymreigrwydd y Cymry. Yn yr ardaloedd He bydd y Saeson wedi ymsefydlu ymhlith y Cymry bydd y Cymry'n tueddu er eu gwaethaf, mewn cynulliadau cymysg, i siarad Saesneg, am mai honno ydyw'r unig iaith a ddeellir gan bawb. Ac fel hyn, a thrwy briodasau cymysg a Seisnigo'r aelwyd, a thrwy i blant yr ysgol siarad Saesneg â'i gilydd wrth chwarae, fe foddir y gymdeithas Gymraeg gan y dilyw Saesneg, ac fe gollir y peth gwerthfawr hwnnw y bu cymaint o ystrydebu yn ei gylch, sef y dull Cymreig o fyw Y mae dyfodiad y Saeson i Gymru, a Seisnigo'r ardaloedd