Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

arfau. Sefydlodd y Gwyddelod yn y De eu byddin hwythau i'w gwrthwynebu, sef y Fyddin Weriniaethol Wyddelig, neu yr "IRA" (Irish Republican Army). Dechreuodd y Rhyfel Mawr Cyntaf yr union adeg honno, ac er mwyn cael y wlad yn unol i ymladd y rhyfel, gohiriwyd Mesur Ymreolaeth i Iwerddon hyd ddiwedd y rhyfel. Cytunodd arweinwyr y Blaid Wyddelig yn y Senedd â hyn, ond yr oedd gwrthwynebiad cryf iawn yn Iwerddon. Cefnogai'r Gwyddelod fwyfwy Blaid y Sinn Ffeiniaid, a hawliai fesur helaethach o Ymreolaeth nag a gynigiwyd yn y Mesur Ymreolaeth a basiwyd yn 1914. Aeth y gwrthwynebiad hwn yn gryfach wrth weld fod Lly- wodraeth Prydain yn rhoddi safle a pharch i'r rhai a oedd yn elyniaethus i hawliau Iwerddon, ond yn amharchu ei "gwlad- garwyr". Ni chynigiwyd cosbi arweinwvr Ulster am smyglo arfau i Ogledd Iwerddon ar drothwy'r Rhyfel Mawr, ond ei grogi fel bradwr a gafodd Roger Casement, sŵr o symeriad uchel, am geisio smvglo arfau i Dde Iwerddon. Yn 1916. cododd gwrthryfel arfog cryf vn Nulyn, a bu raid anfon milwvr o Brydain i'w ddarostwng. Cymerwyd yr arweinwyr yn garch- arorion a saethwyd hwvnt rhai o arweinwyr anwvlaf v Gwyddelod, ac aeth y teimlad swrth-Brydeinis yn ffyrnicach nag erioed. Bu llawer llofruddiaeth erchyll ar y ddwy ochr. Ar ddiwedd y Rhyfel Mawr, ffurfiodd v Llywodraeth fyddin arbennig a alwvd vn Black and Tans foddi wrth liw eu gwisg), "at y gorchwvl (chwedl George Davies yn Profiadau Pellach) o lethu'r gwrthrvfel: llosowyd cartrefi. a ffatrì'oedd ymenyn yr amaethwvr, a dialwyd mwrdwr gan fwrdwr: dihansodd swras- edd a Dhlant y pentrefwyr vn fynych i gysgu i'r mynyddoedd rhag ofn y dialydd gwaed". Dyma'r hvn a ddvwedodd George Davies yn Welsh Outlook am ganlyniadau'r gwrthrvfel yn 1916:] Wedi'r gwrthryfel rhyfeddol yn Nulyn, cymerwyd mesurau cryfion gan ddvn gwan. fel y digwydd yn aml. Darostyngwyd y gwrthryfel gan Mr Asauith â llymder a'i gyrrodd o dan y ddaear o'r golwg. Yr oedd pob dienyddiad vn golvsu deng mil o ddych- weledigion i Blaid Sinn Ffein. Pan ddienyddiwvd Patrick Pearse. y bardd,"diffoddwvd Cenedlaetholdeb Cyfansoddiadol yn y digofaint cyffredinol. Golygai Llywodraeth Filwrol "ferthyron" ar y naill law. a "llofruddiaeth" ar y llaw arall. Pan ddaeth y Black and Tans, cyrhaeddodd y gvstadleuaeth farbaraidd ei huchafbwynt. Ac eto. hyd yn oed yn rhengau'r Sinn Ffeiniaid, yr oedd arweinwyr fel