Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Dyma Adran gyntaf Erthygl 25 o Ddatganiad y Cenhedloedd Unedig: Y mae gan bawb hawl i safon byw digonol i'w iechyd a'i ffyniant ef a'i deulu, yn anad dim i ymborth, dillad, annedd a gofal medd- ygol, ac i wasanaethau cymdeithasol angenrheidiol; a hawl i sicrwydd cynhaliaeth os digwydd diweithdra, afiechyd, analluog- rwydd, gweddwdod, henaint neu unrhyw wall bywoliaeth arall pan fo'r amgylchiadau'n annibynnol ar ei ewyllys ef. Dywedodd Mr Rees ymhellach: "Ni eill dynion, gan amlaf, sicrhau eu hawliau yn ymarferol, onid amddiffynnir y cyfryw hawl- iau gan awdurdod cyfraith. Y mae dweud bod gan unrhyw ddyn hawl i unrhyw beth yn golygu dweud hefyd fod ar rywun neu rywrai ddyletswydd tuag ato. Y mae dweud bod gan blentyn hawl i addysg, er enghraifft, yn golygu dweud bod ar rywrai ddylet- swydd i godi ysgolion, hyfforddi a thalu athrawon, danfon y plentyn i'r ysgol, etc. Nid oes gan neb hawl, felly, oni bo dylet- swydd ar rywun arall". Y mae Erthyglau eraill o'r Datganiad yn ymwneud â hawl dyn i waith, i dâl teg am ei waith, i dâl cydradd am waith cydradd, i amodau gwaith cyfiawn, i orffwys a hamdden, i gyfyngiad rhesymol ar oriau gwaith, a hawl i ddewis ei waith, i amddiffyniad rhag diweithdra, a hawl i ffurfio undebau llafur ac i ymuno â hwy. I amddiffyn yr hawliau hyn yn fwyaf arbennig, a hawliau eraill, y sefydlwyd yr ILO. Rhydd yr ILO News am fis Rhagfyr lawer o hanes y modd y cyflawnodd y gwaith hwn yn ystod llai na hanner canrif ei hoes. Ei dull o weithredu ydyw llunio Cynllun-Ddeddf (Conventiori) ar ryw fater arbennig, ac yna gofyn i Lywodraethau'r gwahanol wledydd, wedi ei thrafod a'i hystyried, basio Mesur drwy eu Seneddau yn gwneud y Gynllun-Ddeddf honno yn Ddeddf yn eu gwlad hwy, a hysbysu'r ILO eu bod wedi gwneud hynny. Er enghraifft, y mae 44 gwlad eisoes wedi pasio Deddf yn darparu cyflog cyfartal i ddynion a merched am waith cyfartal. Y mae Deddf yn sicrhau'r hawl i ffurfio Undebau Llafur wedi ei phasio gan 65 gwlad, a Deddf arall i roddi hawl iddynt gyd-fargeinio wedi ei phasio gan 66 gwlad. Nid gorfodi'r gwledydd i gydnabod Iawnderau Dyn ydyw swydd yr ILO, ond casglu a darparu gwybodaeth iddynt, a'u cymell i basio deddfau yn sicrhau'r iawnderau hyn rhwng gweithwyr a'u cyflogwyr a'r Wladwriaeth.