Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

GAIR O RHOSLAS Gan C. E. THOMAS CYFEIRIAIS y tro diwethaf at "Yr Ymgyrch dros Addysg" a'r "Wythnos Genedlaethol". Cynhaliwyd llaweroedd o gyfarfod- ydd Cyhoeddus o bob math yn ystod yr Wythnos Genedlaethol dros Addysg yng Ngogledd Cymru. Cafwyd Arddangosfa ar Addysg o bob gradd ym Mangor ffilmiau a stribedi ffilm wedi eu gwneud yn lleol gan athrawon a myfyrwyr o'r gwahanol ysgolion. Yn Theatr Ffiseg Coleg Bangor, cynhaliwyd cyfarfod cyhoeddus rhag- orol, a D. W. Trevor Jenkins yn annerch i ddechrau, ac wedyn yn cyflwyno panel o arbenigwyr i ateb rhai o'r llu cwestiynau a anfonwyd i mewn. Cynhaliwyd cyfarfodydd brwdfrydig hefyd yng Nghaernàrfon, Llandudno, Pwllheli a Wrecsam, a llawer lle arall. Ym mis Tachwedd, cawsom Ysgol Ben-Wythnos arbennig yn Llandudno i aelodau Undebau Llafur. Darlithiwyd gan Clemens Alferman, un o brif swyddogion Undebau Llafur Gorllewin yr Almaen. Pynciau ei ddarlithoedd oedd: "Perthynas yr Undebau â'r Cyflogwyr", "Safle'r Undebau" a'r "Gwasanaethau Cyhoeddus" yn yr Almaen Orllewinol. Sylwyd ar yr amrywiol wahaniaethau rhwng y wlad hon a'r Almaen. Eto ym mis Rhagfyr, cynhaliwyd Ysgol Ben-Wythnos arall lwyddiannus iawn ym Mae Colwyn, a Huw Morris Jones o Goleg Bangor yn darlithio ar "Yr Argyfwng Gwleidyddol ym Mhrydain Heddiw". Deliodd yn rymus ac yn olau â phroblem sylfaenol ein dydd, sef Gweriniaeth, neu hawl dyn i gyfranogi mewn penderfynu ei dynged ei hun, a pherthynas Gweriniaeth a Gwyddoniaeth. Daeth dros drigain o undebwyr llafur i'r cyrsiau hyn, a chafwyd trafodaethau bywiog ac adeiladol iawn. Yn Llansannan, cynhaliodd Cangen WEA Is-Aled ei Seiat Holi arferol, a J. M. Thomas o Adran Cemeg, a Bryn L. Davies o Adran Addysg Coleg y Brifysgol, Bangor, ar y panel, a'r Ysgrifennydd yn holwr. Fe gymerai ddeuddydd neu dri i ateb yr holl gwestiynau a anfonwyd i mewn. Deil y gwaith i ffynnu yn Sir Drefaldwyn er pob anhawster. Collasom Miss Margaret Jones, ein Trefnydd Rhan-Amser, gan ei bod wedi dechrau ar gwrs hyfforddiant fel Trefnydd i'r Gwaith Ieuenctid. Hyd nes gallwn wneud penodiad llawn-amser, carwn glywed am rywun sydd â char ganddo, ac ychydig o amser sbâr a