A pharabl gweinidog-benthyg Yn gryndod ar donfedd y pryf copyn Rhwng y distiau pîn. Yn ei ganu caeth y mae'r grefft yn sicr, a'r mynegiant yn ddilyffeth- air, megis yn Beddargraff Porthmon: Dyn siriol a dawn siarad, un esgud Ei osgo a'i lygad; Yn ei arch, ni wêl farchnad, A di-stoc ydyw ei stad. Ydyw, y mae J. R. Jones yn fardd, ac y mae ei gyfrol yn rhad am chwe swllt. Ar y Cyd. Gwasg y March Gwyn, y Bala. 10/ Gwaith pedwar bardd, sef Huw T. Edwards, Mathonwy Hughes, Gwilym R. Jones a Rhydwen Williams, a'r tri olaf yn brifeirdd. Y mae gwahaniaeth mawr yn safon y cerddi tu mewn a thu allan i weithiau un bardd, a hefyd yn naws y cerddi. Amrywir hefyd o'r gwael i'r gwych, o'r hen i'r newydd, ac o'r rhydd i'r caeth. Ceir gan Huw T. Edwards yn ei gân gyntaf syniad beiddgar iawn: "Canys Hi a garodd yn Fawr" (Mair) Sawl gwaith y daeth atat a'r pentref ynghwsg Rhag clebran benywod ffôl, I chwilio dy lygaid, di dduwies dy Dduw, Am ei hedd yn nhawelwch dy gôl. Y mae arna'i ofn na fedraf i, beth bynnag, ddygymod â'r syniad. Ond, ar wahân i'r syniad hwn, nid oes dim byd syfrdanol yng nghanu Huw T. Edwards, ond y mae ei ganeuon, serch hynny, yn syml, a rhyw dinc hen atgofion bore oes yn eu melysu yn aml. Y mae yn y gyfrol englyn o'i waith hefyd, sydd gyda llaw uwchben Ysbyty Alexandra, y Rhyl. Englyn da. Rhydd Mathonwy Hughes (fel Gwilym R. Jones) inni englynion, cywyddau, a chaneuon eraill. Y mae ganddo hefyd sonedau, mesur nad yw Gwilym R. Jones yn hoff o'i ddefnyddio. Hoffais Y Gymru Hon, Croes yr Ifanc, Cystal â Minnau, ac y mae yma hefyd gyf- ieithiad o un o ganeuon Tagore. Hoffais yr englyn i Hen Wraig Annwyl, a'r englyn hwn sydd mewn cyfres i Llwyd o'r Bryn: