inol hwnnw, Tarian y Gweithiwr, ni allwn beidio â theimlo fod pethau wedi mynd ar i waered fel y mae'r iaith yn dirywio ynddynt. Gobeithio y bydd llawer o ddarllen ar y gyfrol hon, yn enwedig yn y Gogledd, oblegid teimlaf yn aml fod y Gogledd heddiw yn. hynod o anwybodus am y De­-a’r De am y Gogledd. Er bod traf- nidiaeth yn rhwyddach heddiw, y mae llai o gyfatthrach rhwng De a Gogledd nag a geid pan oedd yn rhaid dibynnu ar yr hen drên neu geftyl a cherbyd. Y mae'n wir fod pobl yr Eisteddfod a gwyr y radio a'r teledydd yn mynd a dod yn weddol gyson, ond ni cheir cymaint o symud yn ôl a blaen rhwng y bobl gyffredin. Pan oedd cymoedd glo y De yn datblygu, edrychai tlodion y tyddynnod a gwyr di-waith y chwareli a mwynfeydd plwm y Gog- ledd ar Gwm Rhondda, a Senghennydd a chymoedd Garw ac Ogwr, fel rhyw El Dorado, lle y ceid gwaith am gyflog sylweddol, a thyrrent yno yn heidiau i gael bywoliaeth. Yn y cyfnodau hynny, yr oedd gan bron bawb yn y Gogledd ewythr, neu fab neu gefnder, a'u teuluoedd yn byw i lawr yn y Sowth; a deuai rhai o'r rheini i fyny i'r Gogledd am dro, neu, yn aml, i ddiweddu eu hoes yn eu hen gynefin. Yn y dyddiau hynny, yr oedd enwau lleoedd yn y De ar flaen tafod trigolion y Gogledd, ac fe wyddai pobl y De yn burion am fannau yn y Gogledd; ond nid felly heddiw. Daeth terfyn ar ffyniant glofaol y De, ac yn y tridegau ymfudiad gweithwyr o'r De i Loegr i chwilio am waith a gafwyd yn lle mewnfudiad Northmyn yno í gael bywoliaeth. Ac o'r cyfnod hwnnw hyd heddiw, pellhau a wnaeth y ddwy ran o Gymru oddi wrth ei gilydd. Gobeithiaf, felly, y gwna cyfrol Gomer Roberts les i ni yn y Gogledd, drwy ein hatgoffa fod Cymru'n cynnwys Sir Forgannwg hefyd, a bod y sir hon wedi bod yn fawr ei chyfraniad i'n diwylliant ni fel cenedl, ac y gall roi arweiniad inni eto yn y dyfodol. C. R. WILLIAMS Rhwng Cyrn yr Aradr, gan J. R. Jones. Gwasg y Dryw. 6/ Pan ddarllenais eiriau canmoliaethus y cyhoeddwyr ar y blurb yr oeddwn yn amheus, ond wedi darllen ychydig o'r caneuon yn y llyfr hwn penderfynais fy mod yng nghwmni bardd o'r iawn ryw,. ac y mae blas y tir a'r wlad yn drwm ar lawer o'r cerddi. Yn ôl y rhagymadrodd, hen yw'r thema, ond cefais mai "Er yn hen, yn ieuanc fyth" y mae, megis y gwanwyn. Mwynheais Oriel Addolwyr, a hefyd Yr Etifeddiaeth: <