Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

MANSEL GRENFELL Gan ITHEL DAVIES (Fe'm brawychwyd yr haf yma pan glywais un noswaith ar y radio fod fy hen gyfaill Mansel Grenfell wedi marw. Byddwn yn ymweld ag ef yn aml pan fyddwn i lawr yn y De, ac ni chlywswn ei fod yn wael. Bydd y byd yn wag imi hebddo. Cyfarfûm ag ef gyntaf mewn Cynhadledd Genedlaethol ym Merthyr yn 1912; a'r tro nesaf yn 1921, pan oedd yn gweithio ar tfarm yn agos i Fachynlleth, wedi ei ryddhau o garchar y gwrth- wynebydd cydwybodol. Yno y cyfarfu â'i wraig, a fu'n gydweithiwr eiddgar ag ef yng ngwaith y WEA am dros 30 mlynedd. Mi dreul- iais wythnos hapus gyda'r ddau yn haf 1947, yn athro mewn Ysgol Haf a drefnwyd ganddo yng Ngorseinon. Mewn ysgrif yn Lieufer Hydref 1954, adroddodd Mansel fel y daeth i gysylltiad gyntaf â'r WEA trwy ymuno ag un o ddosbarth- iadau David Richards yn 1927. Penodwyd ef yn 1931 yn Drefnydd y WEA yng Ngorllewin Cymru; ac mewn ysgrif arall yn rhifyn Gwanwyn 1948 rhoes hanes arbraw diddorol iawn pan sefydlodd Fellowship House ym Mhenrhyn Gwyr yn 1932. Yr oedd yn wr diwylliedig, a chanddo ddiddordeb dwfn yn hanes a llenyddiaeth Cymru. Diolch yn fawr i Ithel Davies am y nodiadau a ganlyn amdano, ac am yr englynion coffa). YR oedd Mansel a minnau'n hen gyfeillion oddi ar 1919 pan gyfarfûm gyntaf ag ef ar ôl inni ein dau gael ein rhyddhau o garchar. Bu gennyf gryn dipyn i'w wneud hefyd a chyfeirio ei gamre i'r gwaith a fu yn fywyd iddo-addysg y gweithwyr. Bûm yn cyd- weithio ag ef am flynyddoedd yn Abertawe ynglyn â Chymdeithas Addysg y Gweithwyr. Fe wnaeth waith mawr yn ei ffordd syml a phenderfynol ei hun i roi hwb i addysg ymhlith pobl mewn oed yn y deheudir yma. Ac ni allwn lai na nyddu ychydig englynion wrth feddwl am ei ymadawiad disymwth iawn oddi wrthym. Ein cyfaill oedd, bydd cof llawn-amdano, Am y dyn goleulawn; Ni welodd neb lwydd yn iawn Na wnâi 'i goflaid yn gyflawn.