Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

wadu'n naturiol ar y pysgod sy'n byw ar y plancton). Bu astudio ar y cyfnewidiadau a ddilynai godiad graddol y dwr wrth gronni a boddi llethrau'r bryniau a'u llystyfiant, yn lle bod llifogydd y tymor glawog bob yn ail â phrinder dwr y tywydd sych-amodau a reolai dymor epilio'r pysgod. Bydd cynnwys cemegol y dwr llonydd yn wahanol i ddwr rhedeg oherwydd cronni yn y llyn halwynau a gludir yno gan y gwahanol ffrydiau ac afonydd a red i'r llyn. Gall hyn eto ddylanwadu ar y bywyd llysieuol ac ani- feilaidd yn y dwr. (Gwyddom fel y glyn môr-bysgod wrth y dwr hallt, a phrin yw'r rhai a fentrant i ddwr croyw, am nad ydynt yn atebol i fyw ynddo, er y gwyr genweirwyr fel fy hunan y gellir dal lledod ar li â bach pryf genwair gryn filltir neu ragor o enau afon. Nid pob pysgodyn sydd fel yr eog, yn gallu byw yn v ddau amgylchedd fel ei gilydd, ei gen yn cadw'i groen yn anhreiddiadwy a chelloedd' arbennig ganddo i chwanegu at yr halen yn ei waed pan ddaw ei gyfnod i fyw yn y môr. Ni ddav, Llyn Kariba byth yn hallt, wrth gwrs, ond y mae natur unrhyw ddwr yn dylanwadu ar y rhywogaethau a all fyw ynddo). Bydd astudio Kariba o bwys mawr, nid yn unig i ecolegwyr, ond i Affrica ei hun, oherwydd gall yr hyn a ddysgir yno fod o werth amhrisiadwy i'r dyfodol, yn enwedig os codir rhagfuriau eraill ar draws rhai o afonydd mawrion y cyfandir. Cymhleth iawn yw'r cysylltiadau rhwng pethau byw yn y dwr ac ar dir, ac nid yw'n hawdd cyd-fyw a chadw'r ddysgl yn wastad. (I'w barhau) Mi ddarllenais yn rhywle fod rhai pobl yn cam-ddeall llinell Goronwy Owen- Pwy rydd i lawr wyr mawr Môn? gan gymryd ei bod yn golygu: "Pwy fedr roddi un o wyr mawr Môn ar wastad ei gefn?" Ond un llinell o gwpled ydyw hon- Pwy a rif dywod Llifon? Pwy rydd i lawr wyr mawr Môn? Fe awgrymwyd ystyr arall i'r ail linell yn ei pherthynas â'r gyntaf: "Pwy all gyfrif holl ronynnau tywod Llifon? Pwy all ysgrifennu enwau holl wyr mawr Môn?" Y mae'r darlleniad hwn yn gwneud gwell synnwyr o'r cwpled.