y perthi a'r planhigion bychain, a'r llawr o wellt a mwsog. Ac yn y cae yd, y cnwd a fydd dalaf, yna chwyn dipyn llai, a mân chwyn ar wyneb y tir. Caru'r encilion a wna rhai llysiau, a bodlon ydynt ar ddal yr ychydig haul a dreiddia rhwng dail y coed ganol haf. Nid felly fwtsias y gog a blodau'r gwynt. Blodeua'r rhain yn y gwanwyn cynnar, cyn i'r coed uwchben ddeilio a chau'r awyr o'u golwg. Wedi i ddyn dorri a chlirio coedwig gwelwn nifer o gyfnewid- iadau trawiadol, fel y bydd ymryson rhwng gwahanol fathau o blanhigion am Ie, am olau, am ddŵr. Bydd llawer o dyfiant yn y dechrau, ond tra llwydda'r ychydig i fyw yn y tir, trengi a wna'r gweddill, ac fe gymer flynyddoedd cyn y sefydlir mantoliad eto ar y darn hwnnw o dir. Dibynna anifeiliaid ar blanhigion, nid yn unig am gynhaliaeth, ond am loches hefyd yn aml anifeiliaid yn y goedwig, adar ar y canghennau, trychfilod ar y dail a'r rhisgl, ymlusgiaid a mân anifeiliaid yn y gwellt, a phryfed di-rif ymhobman. Gall anifeiliaid newid yr amodau naturiol weithiau, ac yn sicr fe wnaeth cwningod hynny. Credir mai'r Normaniaid a'u cludodd i Brydain gyntaf, i'w cadw mewn cwning-gaerau, er mwyn eu crwyn. Aethant ar chwâl yn fuan, gan epilio'n brysur nes daeth mantoliad rhyngddynt a'u gelynion naturiol, fel y wenci a'r carlwm. Pan fynnodd ciperiaid ac eraill ladd y rhai olaf hyn, yr oedd rhyddid i'r cwningod ehangu eto, a gwelwyd yn fuan eu heffaith ar lystyfiant, gan mor niferus a barus oeddynt. Daeth firws myxomatosis i beri haint yn eu mysg ddiwedd 1953. Er i'r firws ladd 99 y cant o'r cwningod yn Awstralia, nid oedd mor farwol yma. Eto diflannodd y cwbl bron yng Nghymru, a rhodd- odd y ffrwydrad bywydegol hwn gyfle gwych i wyddonwyr astudio'r canlyniadau ecolegol. Trwy gyfrif poblogaeth nifer o gwning-gaerau cyn 1953, cafwyd nid yn unig amcan o rif y cwningod, ond ffigurau i ddangos bod 8 0 bob 10 yn marw yn ystod y flwyddyn, hynny'n profi eu bod yn ysglyfaeth i nifer o heintiau naturiol ac amryw elynion, heblaw dyn â'i groglath, ei drap a'i ffured. Eto, yr oedd digon yn wedd- ilí i beri dinistr helaeth i gnydau, a hwythau'n fwy hoff hefyd o'r llysiau mwyaf blasus, gan adael i chwyn a rhedyn ymledu. Pan ddiflannodd y cwningod, wedi'r haint ysgubol, cyfoethog- wyd y meysydd gan amgenach gwelltglas a gwair mwy toreithiog, a chafodd coed ifainc gyfle i dyfu. O'r ochr arall, hoff gan rai planhigion y gwellt byr o'u cwmpas, ac y mae perygl colli'r