Ond cludwyd y cwmwl i Gymru Yn fanlwch dros fynydd a phant, Mae miri yn uffern wrth weled Y fedel yn esgyrn y plant. Mae cyni a chraith las y glowr yn agos at ei galon, a chafodd beth o'i ysbrydiaeth gan ganu Gwenallt, tyst o Yr Hen Lofa. MATHONWY HUGHES Rhamant y Gwenyn, gan J. Evans Jones. Llyfrau'r Dryw. 8/6. Yn union felly, rhamant yw bywyd y gwenyn ac oherwydd ein bod i gyd yn caru'r pethau rhamantus dylai pob un ddarllen y llyfr hwn, boed ef yn wenynnwr neu beidio. O'r tudalen cyntaf y mae'r llyfr hwn yn fwrlwm o ryfeddod y wenynen. Onid yw'n rhyfedd gyda llaw na fuasai'r Beibl wedi cofnodi'r wenynen yn amlach oherwydd yr oedd defnydd dameg ddihafal yn y pryf hwn pan oedd angen cystwyo'r genedl. Ni cheir ond pedwar cyfeiriad at wenyn a hynny yn yr Hen Destament yn unig. Mae'r llyfr hwn yn fyw fel y gwrthrych y mae'r awdur yn ym- drin ag ef. Llwyddodd i gadw diwydrwydd y gwenyn yn ei ryddiaith o'r cychwyn cyntaf. Ni fedrai undyn ysgrifennu fel hyn heb adnabod gwenyn, a'u hadnabod yn dda. Rhyfedd mor ddynol yw'r gwenyn ac ni ellir peidio â gwneud y gyfrol gyfan yn alegori o fywyd dyn­yn ei gariad a'i gasineb, yn ei fwynder ac yn ei greulonderau. Mae J. Evans Jones yn ymwybodol o'i dras, a llenyddiaeth ei genedl. Cawn ddyfyniad o saga Catraeth, a dylai'r dyfyniad ddarllen: "Cydyfem fedd gloyw wrth leu babir" ac nid len fel sydd yn y llyfr. Cyfeirir at ddeddfau Hywel Dda a mêl yn cael ei dalu fel rhent i'r brenin gan ei ddeiliaid. Ofer imi ddyfynnu o'r llyfr hwn. Y mae J. Evans Jones yn sefyll gyda T. G. Walker, O. E. Roberts, William Owen a D. J. Evans, yn y cwmni a roes inni lawer o lyfrau natur arben- nig yn y blynyddoedd diweddar. A pheidied neb â dweud na ellir trafod llysieueg a bioleg a phob cangen o wyddoniaeth mewn Cymraeg rhywiog. Mae Rhamant y Gwenyn yn dangos mor ystwyth yw ein hiaith.