A'r Iesu eilwaith a droes i wylo O weled y llwch yn drwch ar ei draed. Enghraifft o'i grefft hefyd yw ei englyn: 'Y Gronyn Gwenith'. Yn gynnar daw'n eginyn-o'i osod O dan gwysi priddyn; Daw'r adeg i droi wedyn Ei frig aur yn fara gwyn. Gall fod yn wir ddoniol hefyd fel yn 'Y Cloc Larwm' a chywydd 'Y Corgi'. Sylwi wedyn ar ffarmwr yn troi allan i ganol storm eira, a dweud am dano: "Mae'n gwisgo mwy nag Esgimo". Yn ei ragair i Heulwen tan Gwmwl, dywaid E. Lewis Evans am D. H. Culpitt: Gwybu ein cyfaill frwydro'n hir a glew yn erbyn afiechyd a gwendid. Bu cofio am ei sirioldeb heintus a'i anian rywiog yn fy ngheryddu droeon. Gwelodd falurio'r gymdeithas o'i gylch gan drai a llanw diwydiant. Hebryngodd dorf o gyfeill- ion i'w gwelyau'n gynnar dan ormes "dwst y garreg". Ymhellach dywaid: Tenau ei lygaid ar ryw bethau neu'i gilydd yn ymsymud Bron yn ddieithriad, gweithredoedd yw gwaelod ei gerddi. Ceir syniad go dda oddi wrth y dyfyniadau hyn am gefndir y bardd o Gefneithin, a'r hyn a'i cymell i lunio cerdd. Bardd sy'n canu ei gân ei hun yw D.H.C. a hynny mewn telyneg a soned. Mae'n wreiddiolach a chraffach na llawer o feirdd, ac o brofiad, fel rheol, y cân. Gall fod mor dyner â dweud am "Rahel o'r Bryn" a fu farw dros ei chant oed: Bu rhywun yn trefnu fod mordaith fach lefn Pan groesai'r hen wreigan a'i siol ar ei chefn. Gall fod mor wrthryfelgar-ddewr â dweud yn Y Fedel am gamp y gwyddonydd "yn ffrwyno'r egnïon" ac yn arbrofi "yr ergyd drydanol ar ynys a gysgodd yn hir". Meddai: