Mae persawr y pridd caredig yn llawer cryfach nag aroglau'r ddesg ar y math hwn o ganu, ac y mae'n ganu naturiol, a dweud y lleiaf. Yr hyn a dery ddyn yw mai ar gynghanedd y ceir y canu gorau fel rheol, peth sy'n profi'n glir mai traddodiad y canu caeth sydd ddyfnaf ei wraidd yn y bardd o Gymro, a'i fod yn mynnu blaguro er pob rhyw awel estron. Bron na ddywedwn i mai ymhlith yr englynion y ceir perlau disglair y cyfrolau hyn, pethau fel englyn cofiadwy William Morgan (Collwyn) i Ann Griffiths: O'i dawn a'i thanbaid ynni-fe rannodd Fêr ei henaid inni; Erys dros fyth heb oeri Farworyn ei hemyn hi. Syníad da yw cyhoeddi Barddoniaeth y Siroedd, ac y mae pob un o'r llyfrynnau heirdd hyn yn fwy o werth na'r pris. Os deallaf yn iawn, Cerddi'r Mynydd yw cyfrol farddoniaeth gyntaf Iorwerth H. Lloyd. Mae'n debyg y buasai salach bardd na'r cynganeddwr campus hwn wedi cyhoeddi ei waith ymhell cyn hyn. Detholodd yr awdur yn ofalus, mae'n amlwg, o blith ei gerddi, a bu'n ddigon gwrol i fodloni ar gyhoeddi dim ond y goreuon. Cyfrol gymharol fer (45 tudalen), yw hon, ac y mae'n rymusach o gymaint â hynny. Cynnwys ddarnau cynganeddol, cyfresi o englynion ac englynion unigol, dwy neu dair o faledi, telyneg neu ddwy, ac un soned. Gwobrwywyd rhai ohonynt yn yr Eisteddfod Genedlaethol. O'r mynydd y cafodd I.H.Ll. ei ruddin a'i braffter fel bardd. Nid ymwadodd â'i wreiddiau erioed wrth ganu, beth bynnag fyddai'r testun. Canu a graen y crefftwr arno yw canu'r gyfrol hon. Byddai'n anodd penderfynu (pe bai angen am hynny), pun ai'r baledwr ai'r cynganeddwr yw'r cryfaf yn y bardd hwn. Medd ddawn neilltuol i adrodd hanesyn yn hoyw ac effeithiol ar gân. Dyna a wna yn 'Lewsyn yr Heliwr', 'Owain Tudur', a'r 'Bardd Grwyd- ryn-W. H. Davies'. Medd hefyd y ddawn brin o beri i gyng- hanedd ganu'n soniarus a bywiogi ymadrodd, a hynny heb dynnu sylw ati ei hun. Gall wneuthur hynny hyd yn oed mewn telyneg fel y dengys ei linellau i'r Gwaredwr yn ei delyneg: 'Llwch'.