HEN DDOSBARTH — TRWY LYGAD BARDD Gan D. MOELWYN WILLIAMS ER gwaethaf dyddiau caru, chwarae mig gyda'r hogiau, a'r diddanwch a fu ar draul chwys plisman, fe'm hachubwyd innau pa ddydd i'r Dosbarth Nos Fawrth, a minnau ond yn un ar bymtheg oed. Eithr wrth edrych yn ôl ar y blynyddoedd gynt pan aflonyddwn ar faniffesto parchus yr hen gymdogaeth, nid oes imi ond cyfa- ddef mai i Giwpid y mae'r diolch am fy ymweliad anhygoel â'r "Hen Ddosbarth" am y tro cyntaf erioed. Yr oedd yno'n digwydd bod ryw Farilin Monro 0 lodes y buaswn â'm llygaid arni ers tro, ac o dan y fath gyfaredd y cefais ddigon o blwc i fentro i mewn i stafell gyfrin yr "Hen Ddosbarth" ar y Nos Fawrth gofiadwy honno. Prin yr oeddwn wedi cyrraedd llawr y Dosbarth na welais yr hen radical Richard Gruffydd yn llygadrythu arnaf dros ei sbectol, a 'doedd ond ychydig wythnosau er pan fuaswn yn ym- weld â'i berllan afalau--dyna flas pethau. Ond, er gwaetha'r sioc, mentrais ymlaen, a chymerais y gadair gyntaf oedd o fewn cyrraedd, ac yno yn y fan a'r lle, a llun "O.M." yn gwenu arnaf oddi ar y mur o'm blaen, fe setlwyd problem yr afalau a Chiwpid â darlith ar "Wareiddiad" gan yr athro, Iorwerth Peate. Pan oeddwn yn llefnyn o fab i blisman yn Abergynolwyn, yr oedd Cymru a'r byd yn wahanol iawn i'r hyn ydynt heddiw, er nad oedd hynny ond yn y tridegau. Ond pan godaf fy sbïen- ddrych i gyfeiriad yr hen ystafell gynnes honno mewn ysgol gefn gwlad, a chael gweld yr eiltro y lle bu'r twrnamaint llenyddol athrawiaethol a gwleidyddol a lle bu ysbrydion Campbell- Bannerman, Silvester Horne a Kant (a Dafydd ap ^Gwilym a Goronwy hwythau yn eu canol), bron na ddywedaf fod dirywiad enbyd ym mywyd cymdeithasol a llenyddol ein cenedl heddiw. Pan âi Leandert Fielding, John Davies a Huw Vaughan, i mewn i arena'r drafodaeth ar derfyn darlith, teimlais lawer tro fel ei gwadnu hi i nôl fy nhad Ond yno, ynghanol yr holl ym- fflamychu radicalaidd y gwelais oleuo lamp y werin am y tro cyntaf erioed, ac yn anterth, ei fflam fe ddaethpwyd â thrysorau Oesoedd Aur Llenyddiaeth Cymru a pherlau'r cain wyddorau a'u cysegru ar allor y werin ei hun mewn Dosbarth cefn gwlad.