ffiniau eu gwlad eu hunain, ac wedi crwydro mewn dychymyg i bellafoedd byd i gasglu mêl i gwch barddol y genedl. Nid awgrymaf, wrth gwrs, fod rhaid dilyn na Lloegr nac unrhyw wlad arall yn slafaidd yn y mater hwn o ysbrydoliaeth. Ond ni ellir gwadu na fyddai llenyddiaeth Lloegr yn llawer iawn tlotach, petai Shakespeare wedi troi clust fyddar i apêl testunau fel Romeo a Jutiet, Hamlet, Marsiandwr Fenis, a nifer helaeth o'r cerddi a'i hanfarwolodd. Pe cyfyngid beirdd Lloegr, neu petaent wedi eu cyfyngu eu hunain, i themâu cyfoes eu gwlad eu hunain, ni chawsai Lloegr gampwaith fel Pippa Passes a Pompilia, gan Browning; Endymion a Hyperion, gan Keats; a llawer o gerddi gan Matthew Arnold ac eraill-ac enwi ond ychydig. Gwyddom fod profiadau dyfnaf, a theimladau sylfaenol dynion, yn gyffredin i bob cenedl yn ddiwahaniaeth, a champ y bardd yw rhoi mynegiant ar gân i adwaith y profiadau hynny ar ei galon ef ei hun. Ac nid drwg o beth o gwbl i fardd o Gymro, yn awr ac eilwaith, yw canfod testun cân ym mhrofiadau ei gyd- ddynion mewn amrywiol amgylchiadau dieithr, ac mewn gwahanol rannau o'r byd, ac yna drwy gyfrwng ei ddychymyg, fynegi'r profiadau hynny mewn cân Gymraeg. Pan ofynnodd rhywun i Walt Whitman, sut y llwyddodd i ysgrifennu cân mor wych i ddyn dall, ag yntau'r bardd a'i ddau lvgad ganddo,-atebOOd, "I did not ask how the blind man felt, I was the blind man". Mynnodd Whitman ei roi ei hun, drwy ei ddychymyg, yn lle y dyn dall anffodus. Er eu mynych ddyfynnu, y mae geiriau Siôn Cent yn parhau'n wir: "Ystad bardd astudio byd". A byddai arwyddair John Wesley-"Y byd yw fy mhlwy"-yr un mor wir ac addas o'i gymhwyso at y beirdd. Tamaid o'r sgwrs deledu rhwng David Llewellyn a Gwyn Thomas, y nofelydd-y naill yn holi, a'r llall yn sôn am ei blentyndod yng Nghwm Rhondda:- D. Ll. Pa mor fuan y daru-chi ymuno â'r Blaid Lafur? G. T.: O, roedd y Blaid Lafur i ni yr un peth ag ydi Eton i chi; roedd ein henwau-ni'n mynd i lawr i ymuno â hi cyn gynted ag y caem-ni ein geni.