RABINDRANATH TAGORE— "GWR ALLAN O AMSER" Gan TREFOR EDWARDS GAN mlynedd yn ôl, ar y 6ed o Fai, 1861; ganed Rabindran- ath Tagore yng Nghalcutta, gŵr sydd erbyn heddiw wedi cyrraedd enwogrwydd na ddaw i ran ond nifer fechan o blant dynion. Y mae rhai o'i syniadau yn ddiamser, yn bod o'r cychwyn ac yn fwy na thebyg heb ddiwedd iddynt; syniadau sy'n torri ar draws amser a gwagle, syniadau pur o ffynnon y bywyd. Y mae'n rhesymol i un synio fod ambell ddyn yn bod mewn amser, ac eto o'r tu allan iddo. Hawdd fyddai dilyn yr ymresymiad yma wrth feddwl am Tagore-bardd, llenor, dramodydd, arlunydd, cerddor, actor, meddyliwr, addysgwr, ac-nid y Ueiaf-teithiwr a gariodd "ysbryd India" i bedwar ban y byd. Mewn byd sydd wedi ei gyfyngu i derfynau amser, gwell fydd ymresymu yn faterol; ac os felly 'roedd Tagore yn ffortunus yn amseriad ei eni, ac yr oedd iddo fantais arall na ellir ei diystyru, sef, ei eni i dy a thylwyth y Tagoriaid. Hynny yw, ganed ef i'r un teulu lle y gallai gael profiad o'r bywyd gwledig yn ei holl ryddid a'i helaethrwydd. Yr oedd y Tagoriaid yn hen, hen deulu, yn. meddu ar ddawn ac athrylith anghyffredin, ac ymysg plant Debendranath Tagore, tad y bardd, 'roedd arlunwyr, beirdd, a rhai cerddorion, a'r aelwyd wedi ei thrwytho'n gyfan gwbl mewn gwaith creadigol. Ar yr un pryd, yr oedd y tad yn arwain symudiad pwysig yn erbyn uniongredinwyr ei oes, mud- iad a'i hesgymunodd mewn gwirionedd oddi wrth gymdeithas y dydd. Hwn oedd un mudiad, ond yn yr un cyfnod cafwyd dau arall. Yr ail, a'r un mor bwysig, oedd y chwyldro llenyddol a gychwyn- nodd ym Mengal; a'r trydydd, y deffroad cenedlaethol. Cymer- wyd rhan flaenllaw yn y tri gan y Tagoriaid, ac achosodd hynny eu hesgymuno fel teulu gan gymdeithas, a'r un pryd enillasant ryddid yr alltud: O'r cyfnod yma ymlaen, bu'r bardd yn rhydd oddi wrth uniongrededd am weddill ei oes. Yr oedd y penteulu, Debendranath Tagore, yn hoff o grwydro a'i hoff fannau, y mae'n amlwg, oedd y mynyddoedd. Oherwydd h) n, yr oedd i ffwrdd yn aml, a chan fod y fam wedi marw gada- wyd y bardd ifanc, yr ieuengaf o saith o fechgyn, i'w fagu gan y gweision. Nid y ffordd orau, mae'n wir, i gychwyn taith bywyd,