yn lân fel llafn o heulwen-ar frig y ddraenen wen yr ochr arall i'r ffordd. Lledodd ei gynffon fel ffan ac yna ei gostwng yn osgeiddig. Syllodd Daniel Rodney Aaron arno am ychydig ac un bys yn ei geg. Yna, a'r bys wedi ei sugno'n lân, cyfeiriodd at yr aderyn du. "Delyn, dad". Oddi tan ei aeliau blewog edrychodd Jac Glas eiliad neu ddau arno. Yna "Gwatsia di dad, rwan". Estynnodd ei law i dwll yn y wal a chrafu ynddo am garreg fechan. Cafodd afael ar un, a'i chymryd rhwng ei fys a'i fawd. Sefydlodd ei olwg ar yr aderyn du, yna'n sydyn chwipiodd ei fraich yn ôl a bwrw'r garreg. Â sgrech aflafar fel y trawodd y garreg ef, neidiodd yr aderyn du i fyny ac ehedeg yn herciog o'r golwg. Rhwng brigau'r ddraenen wen disgynnodd tair pluen ddu a'u bonion yn wyn. "Welist-ti fi'n i daro fo?" Yr oedd y bys yn ei ôl yng ngheg Daniel Rodney Aaron, a throdd ei ddau lygad mawr glas oddi wrth y byd oddi allan ac edrych i fyny at ei dad. "Go dda, yn'te, Dan? Dyna ti be fedar dad i neud". Sythodd Jac Glas ac edrych o'i gwmpas. "Be 'nest ti?" gofynnodd llais tu ôl iddo, a gwthiodd ei wraig -Winifred Heather Jones-at ei ochr i'r drws. Un fechan eiddil, a dau lygad mawr Daniel Rodney Aaron ganddi, 'roedd ei gwallt yn llinynnau syth, a'i hwyneb yn llwyd a diymgeledd. "Fasa werth iti fod yma rŵan, Win! Basa, wir! Mi collist ti hil-Deryn du ar yr hen goedan acw a dyma fi'n i daro fo-y tro cynta! Do, wir —yn'to, Dan?" Unig ateb Daniel Rodney Aaron oedd agor ei safn, bachu blaen ei fys a sugnai yn ei ddannedd isa, a symud ei wyneb i fyny ac i lawr. "Gwelodd Dan fi "Lle ma'r deryn rẃan?" gofynnodd Winni, a diddordeb­ plentynnaidd bron-ganddi yn y digwyddiad. "Mi ffliodd i ffwr". "Ddaru ti mo'i ladd o felly". "Naddo! — Ond dwi'n siwr o fod wedi i ga'l o! O do!— Mi cefis-i o reit inyff Gwthiodd Jac Glas ei fol allan, a daliodd bwcwl gloyw ei felt