CYMRY AC ADDYSG AMERICA GAN BOB OWEN II YR un y sonnir mwyaf amdano fel Cymro a fu'n arloeswr addysg yn America yw Joshua Moody, mab i William Moody a'i wraig, teulu a oedd yn byw yng Nghymru. Dywedir i Joshua Moody gael ei eni yng Nghymru yn y flwyddyn 1633, ac i'w rieni ymfudo i'r Unol Daleithiau oddeutu 1635, a'u bod ymhlith rhai o'r sefydlwyr cyntaf yn Newbury, Mass. Bu farw William Moody, Hydref 25, 1673. Piwritan selog oedd Joshua Moody, a graddiodd yng Ngholeg Harvard, Boston, yn 1653. Daeth yn weinidog cyntaf yr Annibynwyr yn Portsmouth, Hampshire, a phregethodd yno o 1658 hyd 1671. Yn 1684, gwnaethpwyd ef yn Gymrawd o Goleg Harvard, a dymunwyd arno dderbyn ei Lywyddiaeth, ond gwrthododd. Cyfrifid ef yn ddyn mawr fel dinesydd. Mynych yr ysgrifennwyd fod a wnelo'r Cymry á sefydlu Coleg Harvard, ond yn niffyg tystiolaethau pendant, nid wyf yn sicr o hyn; ond gallaf fynegi fod i'r Coleg hwn Ie amlwg ynglŷn â gwybodaethau am Gymru a'r Cymry, a bod ynddo Adran Gel- taidd bwysig. Daeth rhai o'r myfyrwyr yn yr Adran hon yn wyr cyfarwydd yn y Chwedleuon am Arthur, yr iaith Geltaidd, a gwreiddiau'r iaiith Gymraeg. Ceir ynddi lyfrgell Gymraeg odidog, a phryn yr awdurdodau yno heddiw fwy o lyfrau Cym- raeg na'r un awdurdod arall yn y byd, tu allan i Lyfrgell Genedl- aethol Cymru. Y mae ynddi fwy o lyfrau, newyddiaduron, cylch- gronau a phamffledi Cymraeg a gyhoeddwyd ac a argraffwyd yn America nag yn yr un llyfrgell arall yn y byd. Yn Chwefror 1682 cawn hanes y Parch. Morgan Jones, brodor o Fasaleg, Sir Fynwy, yn sefydlu Ysgol Sul yn eglwys Newtown; Long Island, perthynol i'r Presbyteriaid. Yr oedd ef wedi derbyn dysg yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen, ac ym- sefydlodd yn Llanmadog, Sir Forgannwg. Ac yno y bu nes iddo wrthwynebu Deddf Cydffurfio. Cafodd gryn wrthwynebiad i addoli yn ôl ei gydwybod hyd yn oed yn America hefyd, ond aeddfedodd y Goron erbyn 1684 i'w godi yn ysgolfeistr, ond ar gyflog bach.