Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

LLEUFER CYLCHGRAWN CYMDEITHAS ADDYSG Y GWEITHWYR YNG NGHYMRU CYF. XIII HAF 1957 Rhif 2 NODIADAU'R GOLYGYDD UN o'r ysgrifenwyr mwyaf deallus ar faterion tramor i bapurau newydd America ydyw Walter Lippmann; bydd yn ysgrifen- nu'n gyson i'r New York Herald Tribune, a chyhoeddir ei nod- iadau yn y wlad hon gan y Manchester Guardian. Rai misoedd yn ôl, ysgrifennodd am ymosodiad Khrushchev ar Stalin, ac ym- ateb Comiwnyddion y Gorllewin iddo. Dywedodd eu bod hwy wedi camddeall yn llwyr y peth yr amcanai Stalin ei wneud. Dylasent fod wedi deall dysgeidiaeth Karl Marx yn well, meddai. Dysgasai hwnnw mai yn y gwledydd mwyaf diwydian- nol y buasai Comiwnyddiaeth yn datblygu, ond gwlad amaeth- yddol oedd Rwsia, heb ddim ond ychydig ddiwydiannau ynddi, a'r rheini o ansawdd elfennol. Y peth yr amcanodd Stalin ato oedd gwneud Rwsia yn wlad ddiwydiannol gref mewn ychydig flynyddoedd, fel y gallai wrthsefyll cystadleuaeth gwledydd cyfal- afol y Gorllewin. Yr oedd yn rhaid i Rwsia, felly, grynhoi ei hadnoddau a'i llafur ar adeiladu peiriannau a gweithfeydd a ffatrïoedd, ffyrdd a ffyrdd heyrn ac argaeau, ffwrneisiau dur a phyllau glo, gorsaf- oedd trydan a cholegau technegol, i wneud y wlad yn filwaith mwy cynhyrchiol nag o'r blaen, yn hytrach na defnyddio'r ad- noddau hyn i gynhyrchu mwy o fwyd a dillad, tai a dodrefn a setiau radio, i chwanegu at gysur a phleserau'r bobl ar unwaith. Aberthodd Stalin y presennol er mwyn y dyfodol, gan gredu mai'r unig ffordd i wneud hynny oedd trwy orfodaeth gadarn. Aberthodd ryddid a hapusrwydd cenhedlaeth gyfan o bobl Rwsia, a'u gorfodi i fyw'n fain ac i weithio'n galed am oriau lawer yn y dydd, er mwyn cyflawni'r gorchwyl aruthrol o godi'r wlad o gyflwr cyntefig yr Oesoedd Canol, a'i gwneud yn ystod oes un dyn yn un o wledydd diwydiannol cryfion yr ugeinfed ganrif, fel America a Phrydain. Y mae'rmodd y gwrthsafodd Rwsia Hitler a'i luoedd yn profi gymaint fu ei lwyddiant. Nid arwain gwledydd y Gorllewin tua Chomiwnyddiaeth oedd amcan Stalin, yn ôl Walter Lippmann, ond galluogi Rwsia