Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

LLEUFER CYLCHGRAWN CYMDEITHAS ADDYSG Y GWEITHWYR YNG NGHYMRU CYF. XII GAEAF 1956 RHIF 4 NODIADAU'R GOLYGYDD BYDD anoddefgarwch bywyd cyhoeddus Cymru yn peri arswyd i mi weithiau. Proffeswn ein bod yn wlad ddemocrataidd, yn credu mewn hawl "i bob dyn ei farn, ac i bob barn ei llafar", ond bydd gweithredoedd rhai Cymry yn anghyson iawn â'u proffes. Gwelais flynyddoedd yn ôl Ryddfrydwyr yn Sir Gaernarfon yn aflonyddu ar gyfarfodydd Torïaid, a rhwystro iddynt eu cynnal; clywais am Lafurwyr wedi hynny yn yr un sir yn rhwystro i'r Rhyddfrydwyr gynnal eu cyfarfodydd; ac y mae pardduo'r bobl sydd yn anghytuno â ni ar faterion gwleidyddol yn rhemp yng Nghymru heddiw. Yn ddiweddar, fe gasglodd y fasnach ddiod 120,000 o enwau ar ei Deiseb yn gofyn i'r Senedd am gael agor y tafarnau ar Ddydd Sul yng Nghymru-bron hanner cymaint ag a arwyddodd y Ddeiseb dros Senedd i Gymru-ond, er fy nirfawr syndod, darllenais yn y papurau newydd fod pob un o Aelodau Seneddol Cymru wedi gwrthod ei chyflwyno i Dŷ'r Cyffredin, a bod nifer 0 gymdeithasau crefyddol a dirwestol wedi cymeradwyo eu gwaith. Y mae gennyf bob parch i gymhellion yr Aelodau hyn ÷~anghytuno â phwrpas y Ddeiseb yr oeddynt, mae'n ddiamau- ond 'rwy'n teimlo'n sicr yn fy meddwl fy hun eu bod wedi gwneud camgymeriad dybryd. Y mae gan bawb yng Nghymru yr un hawl- iau dinesig â'i gilydd; y mae gan bob dinesydd hawl i ofyn am wasanaeth ei Aelod Seneddol, pa un bynnag a bleidleisiodd drosto ai peidio; ac y mae gan bob dosbarth o bobl, pa un bynnag a gytunwn â hwynt ai peidio, yr un hawl â ninnau i gyf- lwyno Deiseb i'r Senedd ar unrhyw fater. Rhaid i bob Aelod Seneddol fod yn ffyddlon i'w gydwybod, mi wn, ond tybed nad ydyw rheolau Tŷ'r Cyffredin yn caniatáu iddo gyflwyno Deiseb i'r Tŷ, gan egluro yr un pryd ei fod yn gwneud hynny ar gais y deisebwyr, ac nad yw'n gyfrifol mewn un modd am ei chynnwys? Dyletswydd y Senedd ei hun wedyn fyddai barnu teilyngdod y Ddeiseb. Ac eto, dyma holl Aelodau Senedd- 01 Cymru yn unfrydol yn gwrthod eu gwasanaeth i chwe ugain