Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

LLEUFER CYLCHGRAWN CYMDEITHAS ADDYSG Y GWEITHWYR YNG NGHYMRU Cvr. XII HAF 1956 Rhif 2 NODIADAU'R GOLYGYDD UN o'r blynyddoedd diweddar yma, mi ddarllenais ysgrif ddi- ddorol yn Y Faner gan A. O. H. Jarman, yn disgrifio arbraw addysgol newydd yn y Barri a gododd fy nghalon yn fawr iawn. Yn y dref honno y mae nifer o rieni na fedrant Gymraeg ond a fagwyd gan rieni Cymraeg. Y mae'r rhain yn ymdeimlo â'r golled a gawsant o beidio â dysgu eu mamiaith gartref, ac wedi ymuno a'i gilydd i sefydlu ysgol feithrin ar eu cost eu hunain, fel y caffo'u plant hwy gyfle i ddysgu Cymraeg o'u babandod. "Perthyn y rhicni i'r genhedlaeth ddi-Gymraeg gyntaf, a'u hawydd i sicrhau na chyll eu plant mo'r fraint a gollasant hwy sy'n eu cymcll i anfon eu plant i'r ysgol feithrin Gymraeg". Yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn y Bala ddwy llynedd yn ôl, bûm yn ffodus iawn yn cyfarfod ag S. O. Rees, ysgrifcnnydd Pwyllgor Rhieni Ysgolion Cymraeg y Barri, ac yr oeddwn yn l'alch o glywed ganddo fod yr ysgol feithrin yn llwyddo'n ar- dderchog. Byth er hynny, bu Mr Rees mor garedig ag anfon imi gopïau o Adroddiadau'r Pwyllgor, a diddorol ydyw darllen am lwyddiant plant yr Ysgolion Cymraeg yn Eisteddfod yr Urdd a lleoedd eraill, ac am ymdrechion glew aelodau'r pwyllgor i gasglu arian at gynnal ysgolion. Gobcithio y caf ysgrif i Lleufer cyn bo hir ar yr Ysgolion Cymraeg yng Nghymru. Nid yw'r hanes hwn ond un enghraifft o'r gweithgarwch sydd yng Nghymru heddiw i feithrin yr iaith Gymraeg, a chalon- ogol dros ben ydyw gweld y gefnogaeth a roddir i'r ymdrechion hyn gan Saeson pur, yn siroedd y gororau yn arbennig. Y mae'r nerthoedd ysbrydol yn gweithio o blaid yr iaith, er bod yr am- gylchiadau materol yn gweithio mor gryf i'w herbyn. Y peth tristaf oll ydyw bod y Cymry, er bod ganddynt arian i'w gwario ar bob peth arall, yn peidio â phrynu llyfrau a phapurau Cymraeg. Yn ystod y Rhyfel Mawr Cyntaf, dywedodd arweinwyr Prydain nad oedd y wlad hon ddim yn rhyfela er mwyn medd-