Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR HEN ARDD GYMREIG GAN FFRANSIS G. PAYNE UR bod Gerallt Gymro mewn datganiad nodweddiadol yn honni nad oedd Cymry'r Oesoedd Canol "yn arfer nac o ber- llannau nac o erddi," y mae'n sicr i'r ardd yng Nghymru ddat- blygu yn union fel y datblygodd mewn rhannau eraill o Brydain. Golyga hynny fod gerddi yng Nghymru ymhell cyn cyfnod Gerallt. Pa fath o erddi oeddynt ? Diau eu bod yn rhai defnyddiol yn hytrach nag addurnol. Dyna, er enghraiftt, y lluarth," sef gardd lysiau, y ceir sôn amdani yng nghanu Aneirin tua'r flwyddyn 600. Sonnir hefyd yn y canu cynnar am yr ardd fresych," ac yng Nghyfraith Hywel fe gwrddwn â'r ardd lin." Rhaid cofio hefyd am yr ardd wiail neu'r ardd helyg, meithrinfa'r gwiail at nyddu tidau a rhaflau a gwneuthur cewyll a phob ysmonaidd- waith gwdengwlwm arbennig," chwedl Grufiudd ab Ieuan ap Llywelyn fychan. Felly, cnydau defnyddiol a dyfid yn y gerddi hyn ac y mae'n debyg mai gwyrddlesni yn hytrach na lliwiau amrywiol a'u nodweddai. Chwedl rhyw fardd anhysbys o'r Oesoedd Canol, Bit las lluarth." Ac un o addfwynderau awdur cân yn Llyfr Taliesin oedd lluarth pan llwydd y genhin." Ond, ebr ef drachefn, addfwyn arall, kadawarth yn egin." Hawdd dychmygu apêl melynder y cadawarth, y mwstart gwyllt, yn ymledu fel gwe aur trwy'r gwyrddlesni cyffredinol. Dylid cofio, fodd bynnag, fod ymhlith y llysiau gynt blanhigion a ystyrir gennym ni yn ílodau," ac nad oedd y íluarth yn unlliw bob amser. Ond efallai mai'r ardd lin o dan ei blodau gleision fyddai'r man mwyaf lliwus ymhlith y gerddi diaddurn hyn. Er eu bod mor ddiaddurn, fe gynhwysai'r gerddi cynnar hyn gyda'i gilydd brif elfennau'r ardd ddiweddar; ond nid yw'n debyg y datblygasai'r ardd honno oni buasai am weithgarwch dau ddyn pwysig mewn cymdeithas-y cog a'r meddyg. Ni raid manylu ar waith y cog trwy'r oesoedd yn graddol gyfuno'r ardd fresych a'r ardd lysiau, a'r berllan hefyd ond erbyn heddiw y mae'n hawdd anghofio pwysigrwydd yr hen ardd lysiau iddo. Anfwytadwy fuasai llawer o gig hallt a drewllyd y gaeaf, a llawer o'r pysgod hefyd, oni buasai am yr anis a'r afans a'r march- ruddygl a'r persli a'r holl blanhigion sawrus o ardd lysiau'r cog. Yn nhai'r uchelwyr fe ddefnyddid perlysiau drud y Dwyrain hefyd,