Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ei ddisgynyddion yn y ddwy genhedlaeth nesaf wedi ei anwybyddu o fwriad. Yn y bedwaredd genhedlaeth gwyddom am "Nwtty"Wood Jones, pumed plentyn a merch ifancaf Alabaina Wood (merch i Valentine a Jane) a William Jones o Lyn, ac y mae'n bosibl felly mai ei modryb oedd y Natty a fedyddiwyd yn Llanegryn yn 1797. Fel enw merch gall Natty sefyll am Natalia (nas cofnodwyd yn y teulu hwn), ond y mae'n fwy na thebyg mai'r ffurf od Nutty sy'n gywir ar yr enw bedydd hwn ymhlith y Sipsiwn. Y WERIN GAN T. E. NICHOLAS Gollwng dros gof y cyfan ddydd a ddaw- Y geiriau garw a'r bygythion trwm, Megis y blodau yn anghofio'r glaw Pan lifo'r heulwen i gilfachau'r cwm Gad dithau'n angof fy holl ddrwg, a'm da, Dibris feddyliau chwyrn y dydd a fu, Clebran diddiwedd a fu iti'n bla Pan soniwn am y wawr mewn noson ddu. Bu 'ngair yn arw weithiau, llawer tro Bu'r fflangell yn fy llaw, a thithau'n fud Dan ei hergydion cerddais drwy dy fro I dorri'r breuddwyd ac i chwalu'r hud. Na chofia ddim, fy ngwerin, ond i mi, Yn fy ngwendidau mawr, dy garu di. Y mae coel gyffredin ar led fod unffurfiaeth syniadau a daros- twng rhyddid yn gwneud cenedl yn gryf. Clywir rhywun byth a beunydd yn dweud bod llywodraeth ddemocrataidd yn gwanychu gwlad yn amser rhyfel, ac fe haerir hyn yn wyneb y ffaith fod pob rhyfel o bwys er y flwyddyn 1700 wedi ei ennill gan yr ochr fwyaf democrataidd. — Bertrand Russell.