Y Fuwch a'i Chynffon, neu'r Buwchgrajfiadur, gan Harri Gwynn. Hughes a'i Fab. 6/ John Rhys, 1840-1915, (dwyieithog) gan T. H. Parry-Williams. Cyfres Gwyl Ddewi. Gwasg y Brifysgol. 2 /6. Mae'n debyg y dylai'r sawl sy'n ysgrifennu llyfr wybod beth yw ei bwrpas a'i amcan wrth gyHwyno ffrwyth ei fyfyrdod, ei ddychymyg neu ei wybodaeth, i'r cyhoedd. Os gwneud arian fydd ei amcan, nid yn Gymraeg y bydd yn ysgrifennu. Mae Harri Gavvihi yn ei ragymadrodd i'r gyfrol hon yn nodi dau brif bwrpas iddi, sef rhoi cymorth ymarferol i ffermwyr a thaflu goleuni ar ffermio i eraill. Gall fod elfen o wir yn yr ail gymal, yn ôl yr hyn a olygir wrth oleuni. Anwiredd noeth ydyw'r cyntaf ac nid oes neb yn gwybod hynny yn well na Harri Gwynn ei hun. Er y dylai dyn wybod beth yw ei bwrpas, o drugaredd nid oes rhaid arno ddweud. Cymwynas heb ei gofyn ydyw'r wybodaeth hon yn y rhagymad- rodd, ond y mae ynddi awgrym o wir bwrpas y gyfrol. Dwy brif elfen doniolwch Y Fuwch a'i Chynffon ydyw gor- ddweud a dychanu, a dwy elfen brin ydynt mewn ysgrifennu diweddar yn Gymraeg. O ganlyniad mae'n anodd gosod y llyfi- ar gefndir cyfoes, ac ni fyddai llawer o bwynt mewn ceisio olrhain effeithiau traddodiad arno, gan nad mewn traddodiad llenyddol fel y cyfryw y mae ei wreiddiau. Mae'r dychan a geir yma yn fachog ac yn effeithiol iawn ar brydiau, ac y mae'n ddiddorol sylwi ar y nifer helaeth o weithiau y daw y chwip i lawr ar rai cymeriadau ac arferion cyfoes, ac y mae clec y chwip yn glir iawn yn aml. Mae hyn yn beth amheuthun iawn mewn llenyddiaeth Gymraeg, ac yn beth sy'n apelio at ddar- llenwyr. Byddai mwy ohono yn dra derbyniol. Y brif elfen arall o ddoniolwch yn y llyfr ydyw rhyw fath o or-ddweud sydd yn perthyn i'r un dosbarth o bethau â'r celwydd golau, a'r dychmygu ffansiol a geir mewn llên gwerin. Yn wir, dyma sylfaen y digrifwch a'r doniolwch, ac y mae'n sylfaen aruthrol o anodd ei thrin. Yn aml ynghwrs y llyfr y mae'n llwydd- iannus, megis wrth sôn am iâr fel peth wedi ei eni ar ddwywaith,