PENILLION GAN JOHN ROBERTS' Dros y môr mae'r llanw'n dyfod, Troedia'n hy ar aur ei dywod Cyn ei adael fe rydd iddo Lun ei donnau'n dawnsio arno. Dros y môr yr hed yr wylan, Yn ei swn y mae ei thrigfan, Campau'r môr sy'n hysbys iddi, Ond ni ddysgodd un o'i gerddi. Hyd lan y môr y crwydraf, A'r gwymon arogleuaf; Ac os bydd llong yn gadael tir, Ar honno'n hir edrychaf. Difywyd, meddir, ydyw'r lloer A'i hwyneb oer a garw, A ffals yw'r wên sydd ar ei grudd Pan fyddo'r dydd yn farw, Ond y mae ynddi ddyn di-fai Yn trefnu'r trai a'r llanw. Rhwng godre'r nef a'r heli Mae'r llinell yn hir oedi, Fel hithau oedaf oni ddaw Un dreiddiodd tu draw iddi. Mynna' ynghladdu mewn briallu lle ty' bedwen o bob tu i'm pen a llygaid y dydd ar fy neurudd a rhos cochion ar fy nwyfron a rhosmari o'm hamgylch i a glesin y coed ar ,fy neudroed. — Carol Claddu'r Bardd, yn Canu Rhydd Cynnar (gol. T. H. Parry-Williams).